Newyddion

Gwersyll anawdurdodedig: Parc Lysaght

Wedi ei bostio ar Friday 25th March 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymwybodol bod Teithwyr wedi symud i Barc Lysaght (y Chem fel y’i gelwir yn lleol). 

Mae'n ceisio eu symud yn eu blaen gynted â phosibl o'r man gwyrdd cyhoeddus hwn a ddefnyddir yn eang gan drigolion lleol. 

Yn y cyfamser, mae'n gweithio gyda phartneriaid i fonitro'r sefyllfa yn unol â phrotocol Gwent gyfan ar reoli gwersylloedd anawdurdodedig.