Cymorth i Wcráin
Wedi ei bostio ar Monday 21st March 2022
Mae gan Gasnewydd hanes hir o roi noddfa i ffoaduriaid, ceiswyr lloches ac ymfudwyr i'r ddinas, ac rydym yn sefyll mewn undod â phobl Wcráin, a'r rhai mewn gwledydd cyfagos y mae'r ymosodiad wedi effeithio arnynt.
Mae'n galonogol gweld lefel y gefnogaeth gyhoeddus i'r cynllun Cartrefi i Wcráin ac rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi dyfodiad ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru.
Er ein bod yn aros am ragor o fanylion am y rôl y gall cynghorau lleol ei chwarae wrth gefnogi cynlluniau cenedlaethol, a chyllid a fydd yn ein galluogi i wneud hyn yn effeithiol, rydym yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y trydydd sector i ddatblygu cefnogaeth leol a sicrhau bod ein gwasanaethau allweddol yn barod i ymateb i newydd-ddyfodiaid.
Yn ei gyfarfod diwethaf, cefnogodd y cyngor llawn gynnig yn gwaredu’r ymddygiad ymosodol annerbyniol y mae'r Arlywydd Putin wedi'i ddangos yn erbyn pobl Wcráin; yn dod â rhyfel unwaith eto i gyfandir Ewrop.
Mae Casnewydd yn barod i wneud yr hyn a all i helpu'r rheiny sy'n gorfod ffoi o'u cartrefi a'u gwlad o ganlyniad i'r ymosodiad creulon a direswm hwn.
Nid yw gweithredoedd llywodraeth Rwsia yn parchu rheolaeth cyfraith ryngwladol na'r Cenhedloedd Unedig ac maent yn cael eu condemnio gan wledydd democrataidd ledled y byd.
Mae'r cyngor yn cefnogi pob ymdrech i sicrhau ateb heddychlon a diplomyddol, ac i osgoi gwrthdaro a cholli bywydau.