Dirwy i breswylydd am adael bagiau sbwriel yn anghyfreithlon ar ystâd
Wedi ei bostio ar Thursday 31st March 2022
Mae gwaredu tri bag du o wastraff yn anghyfreithlon wedi costio mwy na £1,000 i un o drigolion Casnewydd.
Plediodd Carlie Hastie Davies, 37 oed, o Barc Broadmead, yn euog i'r drosedd yn Llys Ynadon Casnewydd.
Ym mis Medi’r llynedd, ymatebodd swyddogion Cyngor Dinas Casnewydd i adroddiad o wastraff a waredwyd yn anghyfreithlon o amgylch coeden ar Barc Broadmead.
Cafwyd gohebiaeth mewn tri bag yn ymwneud â Davies a oedd wedi derbyn rhybudd am wneud yr un peth chwe mis ynghynt.
Ym mis Mawrth, rhoddodd yr ynadon ddirwy o £400 iddi a gorchmynnodd iddi dalu costau o £606.28 ynghyd â gordal dioddefwyr o £40.