Newyddion

Pont Casnewydd: cau lonydd

Wedi ei bostio ar Thursday 3rd March 2022

Bydd lonydd ar gau ar Bont Casnewydd a Chylchfan Old Green o ddydd Llun 7 Mawrth am dair wythnos.

Mae angen eu cau i hwyluso gwaith atgyweirio brys i gyfarpar Western Power.

Mae'r lonydd sydd ar gau fel a ganlyn:

•           Pont Casnewydd – dwy lôn ganol y ffordd ar ochr Cylchfan Old Green o'r bont. Y rhain yw’r lonydd ochr dde i’r ddau gyfeiriad. Byddant ar gau o'r gylchfan i ychydig ar ôl y pwynt lle mae'r lôn fysus tua'r gorllewin yn dod i ben, er mwyn caniatáu i draffig sy’n mynd tuag at y gylchfan hidlo i'r lôn sydd ar agor.

•           Cylchfan Old Green – lôn dde ffordd ddynesu Queensway, a ffordd ddynesu’r B4591 at y gylchfan.

Bydd y lonydd ar gau’n barhaus drwy gydol y cyfnod o dair wythnos. Cynghorir preswylwyr i gynllunio eu teithiau gan fod tagfeydd traffig lleol yn bosibl.

Mae'r cyngor yn ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra, ac yn diolch i drigolion am eu hamynedd a'u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.