Y diweddaraf am Barc Lysaght
Wedi ei bostio ar Tuesday 29th March 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi glanhau Parc Lysaght yn dilyn ymadawiad gwersyll heb ei awdurdodi.
Mae'r fynedfa i'r man gwyrdd cyhoeddus, a elwir hefyd yn lleol fel y ‘Chem’, hefyd wedi'i hatgyweirio. Mae mesurau pellach i wneud y parc yn ddiogel pan fydd ar gau hefyd yn cael eu hystyried.
Symudwyd cerbydau i'r safle rhwng nos Iau a bore Gwener.