Newyddion

Swyddi gwyrdd yn ganolbwynt wythnos gyrfaoedd ysgolion Casnewydd

Wedi ei bostio ar Thursday 17th March 2022

Bydd disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghasnewydd yn cael cyfle i ddysgu am swyddi gwyrdd a’r sector amgylcheddol yr wythnos nesaf fel rhan o wythnos gyrfaoedd ar-lein. 

Mae'r digwyddiad, sy’n cael ei gynnal rhwng 21 a 25 Mawrth ac yn cael ei drefnu gan Gyrfa Cymru a phartneriaeth Casnewydd yn Un, yn ceisio gwneud pobl ifanc yn ymwybodol o'r mathau o swyddi sydd ar gael mewn sectorau sy'n datblygu megis

  • trafnidiaeth werdd
  • ynni
  • amgylchedd a chadwraeth
  • adeiladu carbon niwtral
  • gweithgynhyrchu gwyrdd

Bydd disgyblion yn cael cyfle i ddarganfod sut beth yw gweithio yn y sector a byddant yn cael cipolwg ar yr ystod o gyfleoedd gwaith sydd ar gael yn yr ardal leol.

Bydd y deunydd a gyflwynir yn ystod yr wythnos yn parhau i fod ar gael i fyfyrwyr ar ôl y digwyddiad i'w helpu i ystyried dewisiadau a llwybrau gyrfa.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd y Cynghorydd Jason Hughes, aelod cabinet dros ddatblygu cynaliadwy yng Nghyngor Dinas Casnewydd, "Mae'r agenda werdd yn uchel ar restr blaenoriaethau'r cyngor, felly rwy'n falch ein bod yn gweithio gyda Gyrfa Cymru a phartneriaid i gyflawni'r digwyddiad amserol hwn. 

"Rydym am ddangos i'n disgyblion bod swyddi yn yr economi werdd ar gael iddynt ar garreg eu drws, yn ogystal â phwysleisio pa mor bwysig fydd y sector i ddyfodol y ddinas.

"Un o themâu allweddol ein cynllun newid hinsawdd sefydliadol a lansiwyd yn ddiweddar yw'r rôl ehangach y mae'r cyngor yn ei chwarae wrth adeiladu Casnewydd wyrddach.  Mae trefnu digwyddiadau fel hyn yn dangos ein hymrwymiad i’r thema, a gobeithio y bydd yn ysbrydoli arweinwyr y dyfodol i ystyried gyrfa yn yr economi werdd."

Meddai Mikki Down, rheolwr gweithredol a datblygu Gyrfa Cymru:  ""Wrth i fusnesau yng Nghasnewydd ddatblygu eu hymrwymiadau a'u camau gweithredu i gyflawni nodau hinsawdd a chynaliadwyedd, mae'r galw am dalent gyda swyddi a sgiliau gwyrdd yn yr ardal ond yn mynd i gynyddu.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn hanfodol i helpu i roi gwybod i bobl ifanc am y llwybrau gyrfa posibl sydd ar gael iddynt yn yr economi werdd - nawr, yn ogystal ag yn y dyfodol"

Mae rhagor o wybodaeth am y sesiynau ar gael yn https://gyrfacymru.llyw.cymru/digwyddiadau/wythnos-gyrfaoedd-sector-gwyrdd-casnewydd-2022.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.