Newyddion

Addewid ymgyrchu teg cyn etholiadau cyngor mis Mai

Wedi ei bostio ar Wednesday 30th March 2022

Ym mis Mai, bydd trigolion Casnewydd yn dewis eu cynrychiolwyr ar gyngor y ddinas am y pum mlynedd nesaf. 

Mae CLlLC wedi galw ar bob cynghorydd ac ymgeisydd presennol i ymrwymo i ymgyrch etholiadol deg a pharchus, ac mae hyn wedi ennill cefnogaeth drawsbleidiol yng Nghasnewydd. 

Mae holl arweinwyr y grwpiau ar y cyngor wedi rhoi eu cefnogaeth i'r addewid. 

Dywedodd datganiad gan fwrdd gweithredol CLlLC: "Rydyn ni'n gyfarwydd iawn â'r gamdriniaeth rydyn ni'n ei gweld yn ein mewnflwch, ar ein cyfryngau cymdeithasol neu'n gweld ac yn clywed ar ein strydoedd neu, yn waeth, yn ein cartrefi.  

"Dylai gwleidyddiaeth ganolbwyntio ar ffeithiau a thrafodaeth barchus am wahaniaethau polisi neu flaenoriaethau, heb fod yn sarhaus nac yn anoddefgar a pheidio â chyfrannu at gamwybodaeth, misoginistiaeth, gwahaniaethu ac ymrannu. 

Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o bobl amrywiol i ystyried sefyll mewn etholiadau. Rhaid inni dawelu meddwl a chefnogi'r ymgeiswyr hynny sy'n fwy newydd i fywyd democrataidd, y rhai sy'n ymwybodol eu bod yn y lleiafrif neu sydd eisoes wedi profi gwahaniaethu. 

"Mae etholiadau'r cyngor yn ymwneud â phobl sydd eisiau cyfrannu ac sydd am wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n cymunedau. 

"Yn anffodus, rydym yn gweld nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin a’u bygwth.  

"Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae'r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid i lefaru, ymgysylltu democrataidd a thrafod. 

"Rydym felly'n ymdrechu i drin pawb gyda chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel arweinwyr, rydym yn sefyll gyda'n gilydd i alw am roi terfyn ar gam-drin, bygwth ac aflonyddu o unrhyw fath. Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni ddechrau ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai." 

Galwodd y bwrdd am ymgyrch etholiadol deg yn seiliedig ar ymgyrchu cadarnhaol yn hytrach nag ymosodiadau personol ac ymdrechion i bardduo. 

"Mae gan bob un ohonom yr hawl i gyflawni ein dyletswyddau dinesig heb ofni ymosodiadau neu gamdriniaeth.

Mae unrhyw ymddygiad amhriodol, boed hynny ar lafar, yn gorfforol neu'n ysgrifenedig ar y cyfryngau cymdeithasol, yn gwbl annerbyniol a rhoddir camau ar waith os bernir bod angen. 

"Byddwch yn garedig ac yn deg ym mhob peth rydych chi'n ei ddweud a'i wneud."

 

 

 


 

 

 

More Information