Cyngor yn mabwysiadu cynllun rhyddhad ardrethi i gefnogi elusennau lleol
Wedi ei bostio ar Tuesday 1st March 2022
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn darparu mwy o gymorth targedig i elusennau lleol ar ôl cytuno ar newidiadau i'w gynllun rhyddhad ardrethi dewisol.
Cyhoeddodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor, y newidiadau yng nghyfarfod y Cyngor ddydd Mawrth, ochr yn ochr â phecyn o ryddhad ardrethi dewisol i fusnesau canol y ddinas.
Mae'r newidiadau'n caniatáu i'r Cyngor ystyried rhoi swm atodol o ryddhad ardrethi i elusennau a sefydliadau bach lleol sy'n perthyn i'r categorïau canlynol:
- mae'r elusen yn meddiannu eiddo sydd â hawl i ryddhad ardrethi busnesau bach
- mae'r elusen yn darparu cyfleusterau i blant neu bobl ifanc yn y ddinas
- mae'r elusen yn darparu gwasanaeth sydd o fudd uniongyrchol i drigolion Casnewydd
Ni fydd y swm atodol yn berthnasol i:
- safleoedd a ddefnyddir fel siopau elusennol
- eiddo gwag
- eiddo a feddiannir gan elusennau cenedlaethol (oni bai eu bod yn darparu cyfleusterau i blant a phobl ifanc, neu wasanaeth sydd o fudd uniongyrchol i breswylwyr)
- eiddo rhy fawr
Amcangyfrifir y bydd tua 60 eiddo yn elwa o'r newidiadau, a fydd yn costio tua £10,000 i'r Cyngor.
Wrth sôn am y newidiadau, dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Mae llawer o'r elusennau a fydd yn elwa ar y cymorth hwn yn rhai sy'n cael effaith gadarnhaol ar ein pobl ifanc a'u teuluoedd fel y Geidiaid, Sgowtiaid a chlybiau ieuenctid.
"Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi cytuno i'n cynlluniau i gynnig y cymorth ariannol hwn, fel y gellir cydnabod y graddau y mae’r grwpiau hyn yn cyfrannu i'n cymuned, ac fel y gallant barhau i ddarparu eu gwasanaethau sy'n cefnogi ein gwaith ein hunain gan wella bywydau pobl ledled y ddinas."