Gwasanaeth codi baner y Gymanwlad yn y Ganolfan Ddinesig
Wedi ei bostio ar Monday 14th March 2022
Heddiw, nododd Cyngor Dinas Casnewydd Ddiwrnod y Gymanwlad gyda gwasanaeth codi baner ar dir y Ganolfan Ddinesig.
Arweiniwyd y seremoni gan y Parchedig Keith Beardmore a'r Maer, y Cynghorydd David Williams yn darllen neges bersonol gan Ysgrifennydd Cyffredinol Y Gymanwlad, y Gwir Anrhydeddus Patricia Scotland, QC.
Bydd y Brigadydd Robert Aitken CBE, Arglwydd Raglaw Gwent, yn darllen Datganiad y Gymanwlad cyn codi baner y Gymanwlad.
Caiff hyn ei ailadrodd mewn gwledydd ledled y byd wrth i'r aelod-wladwriaethau ailddatgan eu hymrwymiad i ddemocratiaeth, datblygiad a pharch at amrywiaeth.
Mae'r thema eleni yn canolbwyntio ar Gyfarfod Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad - Cyflawni Dyfodol Cyffredin - sy'n amlygu sut mae'r 54 aelod-wladwriaeth yn arloesi, yn cysylltu ac yn trawsnewid i helpu i gyflawni nodau fel ymladd newid yn yr hinsawdd, hyrwyddo llywodraethu da a hybu masnach.
Gan mai 2022 yw Blwyddyn Jiwbilî Ei Mawrhydi, bydd ffocws arbennig hefyd ar y rôl y mae'r gwasanaeth yn ei chwarae ym mywydau pobl a chymunedau ledled y Gymanwlad.