Cynllun uchelgeisiol yn esbonio ymateb y cyngor i'r newid yn yr hinsawdd
Wedi ei bostio ar Tuesday 15th March 2022
Mae Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cynllun gweithredu uchelgeisiol pum mlynedd ar y newid yn yr hinsawdd.
Mae'r cynllun yn nodi sut y byddwn yn gweithio tuag at fod yn ddinas carbon niwtral erbyn 2030.
Mae hefyd yn nodi sut y byddwn yn defnyddio ein gwasanaethau i gefnogi gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ledled y ddinas.
Mae'r cynllun wedi'i gwblhau ar ôl ymgynghori â thrigolion a rhanddeiliaid y llynedd, a ddangosodd gefnogaeth eang i'r cynllun, a’i themâu, ei gweledigaeth a’i blaenoriaethau.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar chwe thema cyflawni allweddol:
- diwylliant ac arweinyddiaeth sefydliadol
- ein hadeiladau
- ein tir
- trafnidiaeth a symudedd
- y nwyddau a’r gwasanaethau a gyrchwn,
- a’n rôl ehangach
O dan bob thema mae'r camau y byddwn yn eu rhoi ar waith i leihau ein hôl troed carbon.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Rwy'n falch iawn o allu cyflwyno ein cynllun uchelgeisiol ar y newid yn yr hinsawdd i'n trigolion.
"Mae'r cynllun hwn yn nodi'r camau y byddwn yn eu rhoi ar waith fel sefydliad i leihau ein hallyriadau carbon dros y pum mlynedd nesaf wrth i ni weithio tuag at gyrraedd allyriadau sero-net erbyn 2030.
“Mae’r newid yn yr hinsawdd yn un o heriau byd-eang diffiniol ein cenhedlaeth. Mae angen dybryd i bob un ohonom ddod at ein gilydd i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd byd-eang ac i greu byd cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Rydym o ddifri’ ynghylch ein rôl yn mynd i'r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac felly mae'r cynllun hwn yn ddogfen hanfodol yn ein taith tuag at allyriadau sero-net."
Ychwanegodd y Cynghorydd Jason Hughes, Aelod y Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy: "Diben y cynllun yw cydnabod y bydd gwneud y dewisiadau cywir nawr yn ein rhoi ar y trywydd cywir ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
"Bydd y camau a roddwn ar waith heddiw yn llywio sut mae ein dinas yn edrych ddeg, ugain mlynedd a deng mlynedd ar hugain o nawr. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu nawr i ddiogelu ein dinas a'n planed ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
I ddarllen y cynllun,
cliciwch yma.