Newyddion

Cyhoeddiad - Jiwbilî Platinwm y Frenhines

Wedi ei bostio ar Thursday 2nd June 2022

Clywch hyn, clywch hyn, clywch hyn

Heddiw yn ein cenedl – a ledled y Gymanwlad – rydym yn dathlu Jiwbilî Platinwm ein gogoneddus Frenhines.

Elizabeth – yr ail o'r enw hwnnw – ein Sofran anwylaf a Phennaeth y Gymanwlad ers saith deg mlynedd.

Mae’n addas mai dyma ben-blwydd Platinwm ei dyfodiad i rym - Platinwm – y metel mwyaf urddasol hwnnw, sy’n fwy gwerthfawr nag aur.

Ac felly er mwyn anrhydeddu'r achlysur unigryw hwn y bydd ffaglau’n cael eu goleuo heno ledled y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Thiriogaethau Tramor y DU – ac ym mhob un o brifddinasoedd y Gymanwlad.

Bydded yn hysbys, wrth gyhoeddi’r deyrnged hon i’w Mawrhydi’r Frenhines ar ei Jiwbilî Platinwm, ein bod yn un genedl ac yn un Gymanwlad.

DUW A GADWO’R FRENHINES. 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.