Cyngor yn codi baner i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog
Wedi ei bostio ar Monday 20th June 2022
Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn codi baner y lluoedd arfog y tu allan i'r ganolfan ddinesig ddydd Llun 20 Mehefin i nodi Diwrnod y Lluoedd Arfog eleni.
Bydd Banerwyr yn cynrychioli sefydliadau milwrol yn bresennol, ynghyd â Dirprwy Arglwydd Raglaw Gwent, y Brigadydd Russ Wardle OBE DL a Maer Casnewydd, y Cynghorydd Martyn Kellaway.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae Diwrnod y Lluoedd Arfog yn gyfle i ddangos ein cefnogaeth i'r dynion a'r menywod sy'n rhan o gymuned y Lluoedd Arfog yn ein dinas: mae hyn yn cynnwys milwyr sy'n gwasanaethu ar hyn o bryd, teuluoedd y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a chadetiaid.
"Yn 2016 llofnododd y cyngor Gyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog - addewid gwirfoddol sy'n annog sefydliadau, busnesau a chymunedau i gynnig cymorth a gwybodaeth i aelodau presennol neu gyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog."
Mae'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys cyngor a gwybodaeth am dai, iechyd a lles, a chyflogaeth. Ceir cymorth addysgol hefyd drwy SSCE Cymru sy'n sicrhau nad yw plant y Lluoedd Arfog o dan anfantais o ganlyniad i fywyd milwrol.
Ym mis Mehefin 2023 bydd Casnewydd yn gartref i Ddiwrnod Cenedlaethol Lluoedd Arfog Cymru. Bydd rhagor o fanylion am y digwyddiad ar gael yn nes at yr amser.
Dysgwch fwy am y gwaith sy'n cael ei wneud i gefnogi ein Lluoedd Arfog yn newport.gov.uk/armedforces