Dinas yn falch o chwifio'r Faner Borffor
Wedi ei bostio ar Monday 6th June 2022
Mae Casnewydd wedi derbyn achrediad swyddogol y Faner Borffor am ei heconomi nos.
Yn debyg i'r Faner Las ar gyfer traethau, nod cynllun y Faner Borffor yw codi safon ac apêl canol tref a dinas rhwng 5pm a 5am.
Cydnabyddir ardaloedd sydd wedi ennill Baner Borffor am ddarparu cymysgedd amrywiol a bywiog o dai bwyta, adloniant a diwylliant tra'n hyrwyddo diogelwch a lles ymwelwyr a thrigolion lleol.
Mae uchafbwyntiau cyflwyniad Casnewydd yn cynnwys bywiogi diwylliant caffi yn ystod y pandemig, y gwaith rhagweithiol sy'n cael ei wneud yn gysylltiedig â chyffuriau a sbeicio diodydd, ac arwyddion Crwydro Casnewydd.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Mae hyn yn newyddion eithriadol o dda i Gasnewydd a'r holl fusnesau sy'n rhan o economi'r nos. Mae'n deyrnged i waith caled ein swyddogion trwyddedu a'n partneriaid, gan gynnwys Ardal Gwella Busnes Casnewydd Nawr a Pubwatch.
"Heb os, bu newid sylweddol yn y cynnig a'r awyrgylch gyda'r nos yng nghanol y ddinas.
"Mae gennym ddiwylliant caffi ‘Ewropeaidd’ anhygoel yn datblygu yn ardal Stryd Fawr y dref gyda'r farchnad sydd newydd ei hadnewyddu yn ategu at y bariau a'r bwytai presennol.
"Mae gennym y tafarndai traddodiadol a phoblogaidd fel y Potters yn ogystal â'r clwstwr o fwytai rhagorol yn Friars Walk. Mae gan y ddinas hefyd fusnesau annibynnol gwych sy'n darparu cerddoriaeth ac adloniant byw o Le Pub yn y Stryd Fawr i Theatr Glan yr Afon.
Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, yr aelod cabinet dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai: "Rwy'n falch iawn o'r newyddion a hoffwn ddiolch i Ray Truman, y cyn-aelod cabinet dros ddiogelu'r cyhoedd, a roddodd ei gefnogaeth lawn i'n cais i ennill yr achrediad.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid nid yn unig i gynnal ein statws Baner Borffor ond i adeiladu arno a gwella ymhellach."
Dywedodd Kevin Ward, rheolwr Ardal Gwella Busnes (AGB) Casnewydd Nawr: "Mae hyn yn newyddion gwych i economi nos Casnewydd, yn enwedig wrth i ni symud allan o bandemig Covid.
"Mae'r AGB wedi gweithio gyda'r cyngor, yr heddlu, Pubwatch, Newport Business Against Crime a phartneriaid eraill i wella arlwy nos canol y ddinas ac mae ennill statws y Faner Borffor yn wobr haeddiannol.
"Yn ogystal â'r gwasanaethau rheolaidd a ddarparwn i fusnesau, y Nadolig diwethaf fe wnaethom ddosbarthu deunyddiau atal sbeicio diodydd i safleoedd trwyddedig ar draws canol y ddinas, a byddwn yn lansio ein gwasanaeth Cenhadon Nos yn fuan i roi cymorth pellach i'r economi hwyr y nos ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
"Ond dim ond y dechrau yw'r wobr hon. Mae gwella economi'r nos yn broses barhaus ac mae'r gwaith o gadw'r Faner Borffor yn dechrau nawr."
Ynglŷn â'r Faner Borffor
Wedi’i datblygu yn dilyn adroddiad "Night Vision" yr Ymddiriedolaeth Ddinesig yn 2006 ac sydd bellach yn cael ei rheoli gan y Gymdeithas Rheoli Trefi a Dinasoedd, mae'r Faner Borffor yn
- broses achredu debyg i Wobr y Faner Werdd ar gyfer parciau a’r Faner Las ar gyfer traethau. Mae'n arwain at statws Baner Borffor ar gyfer canol trefi sy'n bodloni neu'n rhagori ar y safonau rhagoriaeth wrth reoli economi'r nos.
- Cyfres gynhwysfawr o safonau, prosesau rheoli ac enghreifftiau o arferion da a gynlluniwyd i helpu i drawsnewid canol trefi a dinasoedd gyda’r nos.
- Rhaglen ymchwil, hyfforddi a datblygu, i helpu trefi a dinasoedd i wella eu heconomi gyda’r nos.
- Menter gadarnhaol sy'n awgrymu noson allan ddifyr, amrywiol, ddiogel a phleserus.