Newyddion

Mae her ddarllen yr haf yn ôl ar gyfer 2022!

Wedi ei bostio ar Monday 4th July 2022

Yr haf hwn, gall plant 4-11 oed fynd i Lyfrgelloedd Casnewydd i gymryd rhan yn Her Ddarllen yr Haf ar thema gwyddoniaeth ac arloesi.

Thema'r her eleni yw Teclynwyr a thrwy gymryd rhan yn yr her bydd plant yn gallu defnyddio eu chwilfrydedd a'u rhyfeddod i ddeall y wyddoniaeth y tu ôl i ystod eang o ddiddordebau, gan gynnwys ffasiwn, technoleg, coginio a cherddoriaeth. 

Mae’r her yn gofyn i blant 4 i 11 oed fenthyca a darllen unrhyw chwe llyfr llyfrgell dros yr haf.   Bydd y Teclynwyr yn cynnwys llyfrau anhygoel a digon o syniadau ar gyfer arbrofion a gweithgareddau difyr i ddarganfod y wyddoniaeth o'n cwmpas. 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros les cymunedol: “Gwyddom fod darllen er mwynhad yn bwysig i ddatblygiad plant, felly rydym am annog teuluoedd i ddarllen a chael hwyl gyda'i gilydd trwy gydol yr haf. Bydd gwobrau ar gael hefyd am ddarllen ac adolygu llyfrau.”

Bydd ymweliadau gan awduron a sesiynau crefft hefyd yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ledled y ddinas. Mae angen cadw lle ac mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan y cyngor.

Mae her ddarllen yr haf yn dechrau ar 9 Gorffennaf ac yn dod i ben ar 17 Medi, gellir cymryd rhan am ddim, y cyfan sydd ei angen yw aelodaeth llyfrgell (sydd hefyd am ddim!)

Cysylltwch â'ch llyfrgell leol i gael gwybod sut i gymryd rhan.  Fel arall, gallwch gofrestru arlein.