Newyddion

Llyfrgell dros dro i agor ar 26 Gorffennaf

Wedi ei bostio ar Tuesday 5th July 2022

Mae gwaith wedi dechrau i drawsnewid uned fanwerthu yng nghanol y ddinas yn llyfrgell dros dro i drigolion Casnewydd. 

Bydd y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa yn cau am sawl mis o 23 Gorffennaf tra bydd gwaith yn cael ei wneud yn yr adeilad i greu "canolfan wybodaeth". 

Tra byddant ar gau, bydd trigolion yn dal i allu mwynhau amrywiaeth o wasanaethau llyfrgell mewn lle lliwgar a chroesawgar yng Nghanolfan Ffordd y Brenin 

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros les cymunedol: "Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau uned heb fod yn bell oddi wrth adeilad Sgwâr John Frost. 

"Mae'n golygu y gallwn barhau i ddarparu gwasanaethau benthyca yng nghanol y ddinas yn ogystal â mynediad i gyfrifiaduron cyhoeddus a rhai adnoddau ymchwilio i deuluoedd. 

"Rydym yn cydnabod y bydd rhai pobl yn colli ymweld â'r Amgueddfa a'r Oriel Gelf tra byddant ar gau, ond nid yw'n bosibl cynnig rhai dros dro oherwydd natur yr arddangosion a'r gweithiau celf. 

"Fodd bynnag, pan fyddant yn dychwelyd rwy'n siŵr y bydd ymwelwyr yn gwerthfawrogi’r gwaith i drawsnewid y dderbynfa ar y llawr gwaelod yn amgylchedd mwy dymunol." 

Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd rhai gwasanaethau a oedd wedi'u lleoli yn yr Orsaf Wybodaeth yn cael eu darparu o'r adeilad wedi’i adnewyddu. Bydd staff canolfan gyswllt y Cyngor hefyd wedi'u lleoli yno. 

Mae'r symudiad yn dilyn y penderfyniad i osod dau lawr yr hen orsaf reilffordd yn Queensway i Tramshed Tech i greu gofod cydweithio ar gyfer busnesau newydd yn y sectorau digidol, technoleg a chreadigol. 

Mae lloriau uchaf yr adeilad eisoes yn cael eu meddiannu gan Academi Meddalwedd Genedlaethol fawreddog Prifysgol Caerdydd sy'n golygu bod yr hen orsaf reilffordd yn gartref i entrepreneuriaid digidol blaengar y dyfodol.

 

 

 

 

More Information