Newyddion

Y cam nesaf ar gyfer cynllun campws Coleg Gwent

Wedi ei bostio ar Monday 11th July 2022

Mae cynnig cyffrous Cyngor Dinas Casnewydd a Choleg Gwent i greu campws yng nghanol y ddinas fydd yn darparu cyfleusterau addysg bellach o'r radd flaenaf yn cymryd cam arall ymlaen. 

Mae ymgynghoriad cyn-cynllunio wedi'i lansio cyn i gais amlinellol gael ei gyflwyno ar y cyd gan y ddau sefydliad. 

Bwriedir adeiladu campws canol y ddinas ar safle Canolfan bresennol Casnewydd a bydd canolfan hamdden newydd o'r radd flaenaf yn cael ei hadeiladu ar safle tir llwyd gerllaw ger glan yr afon i gymryd lle Canolfan Casnewydd sy'n heneiddio. 

Pan fydd wedi'i gwblhau, bydd campws canol dinas Coleg Gwent yn rhan o Ardal Wybodaeth Casnewydd (AWC) sy'n ymuno â champws Prifysgol De Cymru. 

Mae'r Cyngor hefyd yn cyflwyno cais i gronfa codi’r gwastad llywodraeth y DU i gefnogi Sefydliad Technoleg Cenedlaethol mewn lleoliad yng nghanol y ddinas. 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd:  "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Choleg Gwent a Llywodraeth Cymru ar ein cynlluniau i ddod â darpariaeth addysg bellach i ganol y ddinas. 

"Bydd Ardal Wybodaeth Casnewydd yn cynnig amgylcheddau dysgu rhagorol ar gyfer addysg bellach ac uwch gan helpu i ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc. Bydd ein dyhead i ychwanegu sefydliad technoleg cenedlaethol, sy'n darparu addysg a hyfforddiant technegol lefel uwch o ansawdd da, yn ased gwerthfawr arall y mae mawr ei angen ar y ddinas. 

"Mae'r datblygiadau hyn yn rhan o'n huwchgynllun ar gyfer canol y ddinas – prosiectau adfywio a fydd yn darparu cyfleoedd cyflogaeth, dysgu a hyfforddiant, yn creu cymysgedd mwy amrywiol o ddefnyddiau ac yn ei wneud yn lle deniadol i fyw ynddo, gweithio ynddo ac ymweld ag ef." 

Ychwanegodd Guy Lacey, Pennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Gwent:  "Mae Coleg Gwent yn gyffrous iawn am y cyfle i adeiladu campws newydd sbon yng nghanol y ddinas.   Bydd yn creu amgylchedd dysgu o'r radd flaenaf i holl bobl Casnewydd, mewn lleoliad sy'n hawdd cael mynediad iddo o bob rhan o'r ddinas.   

"Bydd y lleoliad canol y ddinas hefyd yn golygu y bydd y campws yn gwneud cyfraniad cadarnhaol iawn at adfywio canol y ddinas a bydd y coleg yn darparu addysg a hyfforddiant ochr yn ochr â'r brifysgol a'r sefydliad technoleg newydd arfaethedig. 

"Mae ein cynlluniau yn amodol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio'n agos gyda swyddogion i ddatblygu ein hachos busnes drwy'r camau gofynnol, ac edrychwn ymlaen at wneud cynnydd da gyda’r prosiect yn ystod y misoedd nesaf" 

Yn dilyn cais llwyddiannus, bydd gwaith yn parhau i ddatblygu cais llawn i'w gyflwyno yn ddiweddarach. Ar ôl rhoi'r holl gymeradwyaethau angenrheidiol ar waith, bydd yr amserlenni ar gyfer gwaith adeiladu yn cael eu cadarnhau. 

I gymryd rhan yn yr ymweliad ymgynghori: https://www.kewplanning.co.uk/consultations/redevelopment-of-newport-centre-site/

Yn y cyfamser, mae gwaith yn mynd rhagddo ar y prosiect cymhleth o ddylunio ac adeiladu canolfan hamdden fodern sy'n defnyddio ynni'n effeithlon 

Fel rhan o'i ymrwymiad i herio’r newid yn yr hinsawdd, mae'r Cyngor am wneud yr adeilad mor "wyrdd" â phosibl. 

Mae gwybodaeth am gynlluniau ynni posibl yn cael ei chasglu ac mae'r rhain yn cynnwys opsiwn arloesol posibl. Disgwylir i'r opsiynau terfynol fynd o flaen y cabinet yn ystod y misoedd nesaf. 

Tra bod gwaith wedi bod yn mynd rhagddo y tu ôl i'r llenni i ddatblygu'r prosiect hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd, mae Canolfan bresennol Casnewydd wedi darparu adnodd gwerthfawr fel canolfan brechu torfol ac mae trigolion yn dal i allu defnyddio rhai o'i chyfleusterau hamdden. 

Bydd neuadd y pwll yn parhau ar gau gan fod angen cynnal gwaith atgyweirio sylweddol ac anymarferol arni.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.