Newyddion

Canolfan Llong Casnewydd yn teithio nôl mewn amser ar gyfer y Diwrnod Agored Canoloesol

Wedi ei bostio ar Thursday 28th July 2022

Bydd Canolfan Llongau Casnewydd yn dathlu ugain mlynedd ers darganfod Llong Casnewydd ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf gyda Diwrnod Agored Canoloesol (10am-4pm).

Bydd y diwrnod yn cynnwys gweithgareddau llawn hwyl ar thema'r canol oesoedd i'r teulu i gyd, gan gynnwys:

  • Crefftau i’r Teulu
  • Ail-greadau
  • Adrodd straeon
  • Gwneud rhaffau
  • Gwehyddu helyg
  • Cerddoriaeth
  • Bwrw darnau arian
  • Barbwr llawfeddyg

Bydd teithiau o amgylch y Ganolfan Llong hefyd yn rhedeg drwy’r dydd, gyda darnau o bren cadw’r llong yn cael eu harddangos.

Mae mynediad am ddim, gyda pharcio am ddim ar gael ar y safle, a lluniaeth ar werth.  Bydd yr holl elw o werthu lluniaeth yn mynd i Gyfeillion Llong Casnewydd.

Mae Llong Casnewydd wedi cael ei disgrifio fel un o bosau jig-so mwya'r byd.  Ers iddo gael ei ddarganfod ar lannau’r Afon Wysg ugain mlynedd yn ôl, mae gwaith wedi ei wneud i lanhau, cofnodi, dadansoddi a gwarchod olion ac arteffactau’r corff cadwedig. Mae'r gwaith hwn wedi arwain at well dealltwriaeth o ddylunio llongau Iwerydd-Iberia ac adeiladu llongau ar ddiwedd y cyfnod canoloesol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y Cyngor: "Roedd darganfod Llong Casnewydd yn foment fawr i Gasnewydd, ac mae'n wych gweld fod ugeinfed pen-blwydd y darganfyddiad yn cael ei ddathlu.

"Ynghyd â'n partneriaid Cyfeillion Llong Casnewydd, mae'r Cyngor yn arwain y gwaith caled i sicrhau bod y darn pwysig hwn o'n hanes yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i'w fwynhau.

"Mae'r diwrnod agored yn addo bod yn ddigwyddiad gwych, a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y Llong i ddod lawr ddydd Sadwrn ac ymuno yn y dathliadau."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion Llong Casnewydd: "Mae ein gwirfoddolwyr yn edrych ymlaen at groesawu pawb i'r 20fed digwyddiad pen-blwydd yn y Ganolfan Llong.

"Gyda’n storfeydd a reolir gan yr hinsawdd bron yn llawn gyda miloedd o bren wedi’i gadw, mae’n bryd dathlu llwyddiannau’r prosiect wrth i ni symud ymlaen i’r cam nesaf: llunio cynlluniau i ail-greu’r llong.

"Bydd parhau i gefnogi'r prosiect, a gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, mor bwysig ag erioed.   Rydym yn hyderus y bydd y llong yn cymryd lle amlwg wrth galon treftadaeth Casnewydd."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.