Dysgwch rywbeth newydd ym mis Medi gyda dysgu yn y gymuned Casnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 12th July 2022
Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Casnewydd yn rhoi cyfleoedd i bobl leol ennill sgiliau a chymwysterau mewn amrywiaeth o bynciau, ac mae’n bosib cofrestru ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau ym mis Medi nawr.
Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau hanfodol mewn llythrennedd, TGAU mewn Saesneg a mathemateg, ieithoedd modern, Iaith Arwyddion Prydain, llythrennedd digidol a sgiliau byw'n annibynnol i oedolion ag anableddau dysgu.
Yn newydd ar gyfer 2022 bydd cwrs ar lythrennedd carbon lle gall dysgwyr ddeall eu hôl troed carbon a rhoi camau ar waith i leihau eu heffaith ar y blaned.
Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, yr aelod cabinet dros y gymuned a lles: Mae cyrsiau dysgu yn y gymuned Casnewydd yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i ddiwallu anghenion llawer o bobl - boed ar gyfer cymwysterau, cyfleoedd cyflogaeth neu i gyflawni nodau personol.
I gael rhagor o wybodaeth am gwrs neu i gofrestru eich diddordeb, e-bostiwch [email protected] neu ffoniwch (01633) 656656
Mae manylion llawn a dyddiadau’r cyrsiau a gynhelir ym mis Medi ar gael yn newport.gov.uk/communitylearning