Baneri Gwyrdd yn cael eu codi eto mewn dau barc yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 26th July 2022
Mae dau o barciau mwyaf Casnewydd yn dathlu unwaith eto ar ôl cadw eu statws Baner Werdd ar gyfer 2022/23.
Mae Parc Beechwood a Pharc Belle Vue wedi eu cydnabod gan Cadwch Gymru'n Daclus am eu cyfleusterau ardderchog i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu mannau gwyrdd o ansawdd gwych.
Dyma fydd yr unfed flwyddyn ar bymtheg yn olynol i barc Belle Vue dderbyn statws Baner Werdd, tra bod parc Beechwood yn dathlu am y pumed flwyddyn yn olynol.
Mae Parc Belle Vue hefyd wedi cadw ei statws Treftadaeth Werdd am y pumed flwyddyn yn olynol.
Mae trydydd safle sy'n cael ei reoli gan y Cyngor, Amlosgfa Gwent, hefyd wedi cadw ei statws Baner Werdd am y chweched flwyddyn yn olynol.
Mae gwobrau'r Faner Werdd yn gynllun ar gyfer y DU gyfan sy'n cydnabod a gwobrwyo parciau a mannau gwyrdd sy'n cael eu rheoli'n dda.
Cynhelir rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gan Cadwch Gymru'n Daclus, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Cafodd y safleoedd eu dyfarnu gan arbenigwyr gwirfoddol ar fannau gwyrdd a oedd yn asesu yn erbyn wyth maen prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol ac ymglymiad y gymuned.
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey – Yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Rwyf wrth fy modd bod ein tri safle wedi cadw eu statws Baner Werdd.
"Unwaith eto, mae'r gwobrau hyn yn gydnabyddiaeth o waith caled ac ymroddiad ein swyddogion wrth reoli ein mannau gwyrdd, a'u gwneud mor groesawgar ac ecogyfeillgar â phosibl.
"Rydym yn cydnabod gwerth mannau awyr agored o safon uchel i drigolion, llefydd y gallant gysylltu â natur a'u cymuned leol. Dyna pam rydym wedi ymrwymo £2.5m ychwanegol o gyllideb eleni i wella ein parciau a'n mannau gwyrdd, yn ogystal â £300,000 dros y ddwy flynedd nesaf ar gyfer cynnal a chadw ardaloedd chwarae ac offer."