Newyddion

Y Cyngor yn cymeradwyo gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus rheoli cŵn newydd

Wedi ei bostio ar Thursday 21st July 2022

Cymeradwyodd cynghorwyr Casnewydd orchymyn diogelu mannau cyhoeddus newydd ynghylch rheoli cŵn mewn mannau cyhoeddus yng nghyfarfod y cyngor ym mis Gorffennaf.

Mae'r gorchymyn newydd yn cwmpasu pob man cyhoeddus yn y ddinas, gan ddisodli nifer o fesurau safle-benodol a oedd eisoes ar waith.

Mae'r gorchymyn yn nodi bod rhaid cadw cŵn mewn mannau cyhoeddus dan reolaeth bob amser. Nid yw hyn o reidrwydd yn golygu bod rhaid cadw cŵn ar dennyn, cyn belled â'u bod o dan reolaeth eu perchennog neu eu cerddwr.

Fodd bynnag, rhaid i berchnogion a cherddwyr roi eu ci ar dennyn os gofynnir iddynt wneud hynny gan swyddog awdurdodedig, yn yr achos hwn, swyddog y cyngor neu swyddog yr heddlu.

Dim ond os bydd angen ataliad o'r fath i atal niwsans neu ymddygiad gan y ci sy'n debygol o achosi braw, trallod neu aflonyddwch i unrhyw berson, anifail neu fywyd gwyllt arall y cânt eu cyfarwyddo i wneud hyn.

Rhaid i berchnogion a cherddwyr hefyd sicrhau eu bod yn codi unrhyw faw cŵn y mae eu ci yn ei gynhyrchu a'i waredu'n iawn. Mae'r cyngor yn atgoffa trigolion y gellir rhoi gwastraff cŵn mewn unrhyw fin sbwriel y cyngor.

Mae'r gorchymyn hefyd yn eithrio cŵn o nifer o fannau cyhoeddus, gan gynnwys:

  • Ardal chwarae gaeedig i blant, ardal gemau neu gwrt pêl (mae hyn yn berthnasol bob amser).
  • Caeau chwaraeon wedi'u marcio yn ystod eu tymhorau chwarae priodol, fel y nodir isod:
    • Pêl-droed – 1 Gorffennaf – 30 Ebrill
    • Rygbi – 1 Medi – 30 Ebrill
    • Criced – 1 Ebrill – 30 Medi

Gellir cerdded cŵn ar y caeau hyn y tu allan i'r dyddiadau a nodir uchod.

Gellir cerdded cŵn mewn mynwentydd a weithredir gan y cyngor ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser.

Gall unrhyw un y canfyddir ei fod yn torri'r mesurau yn y gorchymyn dderbyn hysbysiad cosb benodedig o £100.

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, yr aelod cabinet dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai:  "Rwy'n falch iawn bod y cyngor wedi cefnogi'n unfrydol gyflwyno'r gorchymyn diogelu mannau cyhoeddus newydd hwn.

"Roedd adborth yr ymgynghoriad a gawsom ar ein cynigion yn dangos cefnogaeth gref i'r mesurau a gynhwyswyd yn y gorchymyn, ac rydym wedi ystyried yr holl adborth wrth baratoi'r gorchymyn terfynol.

"Mae gennym gyfrifoldeb i'n holl drigolion, a chredwn fod y gorchymyn hwn yn cydbwyso'n deg hawliau perchnogion cŵn a phobl nad ydynt yn berchen ar gŵn i fwynhau ein mannau cyhoeddus."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.