Newyddion

Cymorth i aelwydydd a busnesau

Wedi ei bostio ar Monday 31st January 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn atgoffa trigolion a busnesau o'r cymorth sydd ar gael iddynt.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: "Rydyn ni'n gwybod bod teuluoedd, unigolion a busnesau ar draws Casnewydd yn parhau i deimlo cryn bwysau ac mae'r cyfnod ar ôl y Nadolig yn gallu bod yn arbennig o heriol.

"Mae pawb wedi gweld costau byw yn cynyddu - mae ynni, bwyd, dillad - ynghyd â'r pandemig hefyd wedi effeithio ar incwm llawer.

"Yn yr un modd, mae busnesau wedi gweld y fasnach yn cael ei heffeithio ac mae cost cyflenwadau'n cynyddu.

"Ychydig cyn y Nadolig fe wnaethon ni gyhoeddi £100,000 yn ychwanegol ar gyfer banciau bwyd lleol sy'n darparu gwasanaeth mor hanfodol.

"Ond gall y cyngor a'r partneriaid rydyn ni'n gweithio gyda nhw helpu mewn sawl ffordd - cysylltwch â ni os ydych chi'n cael trafferth neu'n poeni."

Ceir gwybodaeth am yr ystod o gymorth a chyngor sydd ar gael ar wefan y cyngor.

Mae'r cymorth yn amrywio o gymorth gyda biliau tanwydd, i gymorth i ddod o hyd i waith neu gael hyfforddiant.

Mae'r cyngor hefyd yn gweithio'n agos gyda llawer o sefydliadau cefnogol eraill sy'n cynnig arian cyffredinol neu gymorth dyled.

Dysgwch fwy am :

  • Gyngor ar ddyledion
  • Banciau bwyd
  • Tanwydd gaeaf a chymorth cyfleustodau eraill
  • Cymorth â’r dreth gyngor a gwiriadau budd-daliadau
  • Cymorth hunanynysu
  • Grantiau Covid
  • Cyflogadwyedd a hyfforddiant
  • Cysylltwyr Cymunedol  
  • Tai

 Mae cyngor a chymorth penodol hefyd ar gael i fusnesau – dysgwch ragor.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.