Newyddion

Cymryd i ffwrdd coed sydd â chlefyd coed ynn yn Nhŷ-du

Wedi ei bostio ar Tuesday 4th January 2022

Mae disgwyl i'r gwaith, o gael gwared ar goed sydd wedi'u heintio â chlefyd coed ynn ar hyd yr A467 yn Nhŷ-du, ddechrau ar 4 Ionawr ac mae disgwyl iddo gymryd tua phedair wythnos.

Gallai'r coed o bosibl fod yn risg i'r cyhoedd felly mae'n hanfodol eu cymryd i ffwrdd er budd diogelwch.

Wrth i'r gwaith ddigwydd, bydd system rheoli traffig ar waith a gwneir pob ymdrech i darfu cyn lleied ag y bo modd, gyda dim ond un lôn ar gau ar unrhyw un adeg.

Mae trigolion yr ardal wedi cael gwybod a bydd arwyddion ar waith i gynghori defnyddwyr y ffordd. 

Mae clefyd coed ynn yn glefyd dinistriol a gludir yn yr awyr, ac nid oes iachâd ar ei gyfer.

Mae arolygon wedi sefydlu bod miloedd o goed heintiedig ar draws y ddinas.  Er ein bod yn gresynu at golli unrhyw goed, nid oes ffordd arall o ddelio â'r clefyd a diogelwch y cyhoedd yw ein blaenoriaeth.

Cynhaliwyd arolygon i ganfod yn union ble mae'r coed ac mae'r rhaglen waith i'w symud yn seiliedig ar gam y clefyd a'r risg y mae'r coed yn ei achosi i'r cyhoedd.

Bydd coed newydd yn cael eu plannu ond bydd angen amser arnynt i aeddfedu i gael yr un effaith ar yr amgylchedd â'r rhai sy'n cael eu cymryd i ffwrdd.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.