Newyddion

Partneriaid yn taclo graffiti yng nghanol y ddinas

Wedi ei bostio ar Tuesday 11th January 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn gweithio gyda Newport Now, yr Ardal Gwella Busnes (AGB), i fynd i'r afael â graffiti yng nghanol y ddinas.

Gall busnesau sy'n aelodau gael graffiti wedi'i dynnu am ddim gan y cyngor diolch i gyllid gan Newport Now.

Nod y fenter yw gwneud canol y ddinas yn lle mwy dymunol i siopa, byw a gweithio ynddo a hyrwyddo'r economi leol.

Dywedodd y Cynghorydd Roger Jeavons, dirprwy arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd a'r aelod cabinet dros wasanaethau'r ddinas: "Mae cael gwared ar graffiti yn golygu cost i fusnesau sy'n gweithio'n galed felly rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda Newport Now sydd wedi camu i'r adwy i helpu ei aelodau fel hyn.

"Yn anffodus, nid oes gan rai pobl unrhyw barch at eu hamgylchedd ac nid oes ots ganddynt sut mae eu gweithredoedd yn effeithio ar eraill.  Byddem yn annog unrhyw un sy'n gweld unrhyw un sy'n difwyno eiddo fel hyn i gysylltu â'r heddlu gan ei fod yn drosedd."

Dywedodd Kevin Ward, rheolwr AGB Newport Now:  "Rydym yn falch o fod yn gweithio gyda thimau glanhau'r cyngor i ddarparu gwasanaeth am ddim ychwanegol i'n haelodau.

"Mae graffiti'n falltod ar lawer o eiddo masnachol a gall ei dynnu fod yn ddrud. Mae'r gwasanaeth newydd hwn yn rhoi cyfle i aelodau'r AGB gael gwared ar graffiti o'u safle am ddim.

"Un elfen o'n cynllun busnes pum mlynedd yw gwneud yr AGB yn lle mwy croesawgar, a bydd cael gwared ar graffiti yn helpu i gyrraedd y nod hwn."

Os yw eich busnes yn dalwr ardoll AGB a'ch bod am roi gwybod am graffiti ar eich eiddo, cysylltwch â [email protected] 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.