Ailagor Hen Bont Basaleg i gerddwyr
Wedi ei bostio ar Wednesday 19th January 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi ailagor Hen Bont Basaleg i gerddwyr dim ond ar ôl cwblhau cam cyntaf y gwaith atgyweirio brys.
Mae'r gwaith atgyweirio wedi cynnwys sefydlogi pileri’r bont a llenwi’r holl graciau a bylchau ar y prif biler cynnal.
Mae asesiadau wedi cadarnhau nad yw'r bont mewn perygl o gwympo’n fuan, a'i bod yn ddiogel ei hailagor i gerddwyr.
Mae angen mwy o waith a phrofion er mwyn i ni ailagor y bont yn ddiogel i gerbydau. Bydd hyn yn cynnwys codi'r strwythur cyflawn a disodli’r cynalyddion ar yr ategwaith gorllewinol.
Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda thrigolion Forge Mews i sefydlu ateb parcio dros dro a fydd yn ein galluogi i ddileu'r mesurau rheoli traffig dros dro sydd ar waith ar hyn o bryd ar yr A467.
Byddwn yn rhoi diweddariadau ac amserlenni pellach maes o law ar ôl cytuno ar hyn.