Newyddion

Gŵyl Fwyd Casnewydd yn ôl ar gyfer 2022

Wedi ei bostio ar Wednesday 26th January 2022

Mae Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd, wedi cyhoeddi y bydd Gŵyl Fwyd boblogaidd Casnewydd yn dychwelyd eleni, ddydd Sadwrn 8 Hydref.

Fe ataliodd y pandemig Covid un o brif ddigwyddiadau'r ddinas am ddwy flynedd yn dilyn yr ŵyl lwyddiannus ddiwethaf ym mis Hydref 2019.

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Rwy'n falch iawn y gallwn ddechrau paratoi ar gyfer Gŵyl Fwyd Casnewydd 2022 ar ôl saib anochel.

"Denodd gynhyrchwyr a chyflenwyr gwych o'r ardal leol a thu hwnt a miloedd lawer o ymwelwyr ers ei sefydlu yn 2010.

"Rwy'n gwybod ei bod wedi'i cholli'n fawr, a bydd pawb sy'n gwerthfawrogi bwyd gwych, awyrgylch gwych a diwrnod allan gwych yn croesawu'r newyddion yma.

"Mae'r paratoadau ar gam cynnar ar gyfer 11eg Gŵyl Fwyd Casnewydd ond rydym am gynnull yr holl elfennau sydd wedi ei gwneud mor boblogaidd yn y gorffennol, gan gynnwys masnachwyr anhygoel yn gweini a gwerthu bwyd a danteithion a gweithgareddau blasus i'r teulu i gyd."

Codwyd dros 70 o stondinau yng nghanol y ddinas ar gyfer yr ŵyl ddiwethaf yn 2019 ac roedd dros 75 y cant o'r cynhyrchwyr o Gymru.

Bydd gwybodaeth am sut i wneud cais i gael stondin yng Ngŵyl Fwyd Casnewydd eleni a'r hyn fydd ar gael ar wefan yr ŵyl cyn gynted ag y bo modd www.newportfoodfestival.co.uk

Gallwch hefyd ddilyn ar Twitter @NewportFoodFest, Facebook @newportfoodfestival ac Instagram nportfoodfest

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.