Newyddion

Diwrnod Cofio'r Holocost 27 Ionawr: Casnewydd yn cofio

Wedi ei bostio ar Wednesday 19th January 2022

Bydd Cyngor Dinas Casnewydd yn ymuno â phobl ledled y byd i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost ar 27 Ionawr.

Bydd tŵr cloc y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo mewn porffor a bydd baner yr Holocost yn hedfan y tu allan i'r adeilad.

Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Byddwn unwaith eto'n cefnogi Diwrnod Cofio'r Holocost sydd â'r thema 'un diwrnod' eleni.

"Rydyn ni'n dod at ein gilydd ar 'un diwrnod' i gofio holl ddioddefwyr hil-laddiadau ledled y byd.  Yn anffodus, dilynwyd llofruddiaeth miliynau o bobl yn yr Holocost gan drychinebau eraill fel y rhai yn Cambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

"Rydym hefyd yn dwyn tystiolaeth am y rhai a fu farw a'r rhai a oroesodd ond y byddai eu bywydau wedi newid am byth o ganlyniad i'r profiadau hynny. 

"Rydym yn rhannu'r gobaith, un diwrnod, na fydd mwy o hil-laddiadau, y bydd pobl yn dysgu o wersi'r gorffennol a'n bod ni'n adeiladu dyfodol gwell a mwy diogel i bawb drwy siarad eto am ragfarn, anghyfiawnder a chreulondeb i eraill. 

"Mae Diwrnod Cofio'r Holocost hefyd yn gyfle i ddathlu amrywiaeth ein cymunedau.

"Rwy'n falch y byddwn unwaith eto'n "goleuo'r tywyllwch" drwy oleuo tŵr y cloc.  Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn ymuno â'r coffáu cenedlaethol ac yn rhoi cannwyll yn ddiogel mewn ffenestr am 8pm ar 27 Ionawr."

Bydd Seremoni'r DU ar gyfer Diwrnod Cofio'r Holocost 2022 yn cael ei ffrydio ar-lein Ddydd Iau 27 Ionawr.  Dysgwch sut i gofrestru i wylio yn https://www.hmd.org.uk/take-part-in-holocaust-memorial-day/ukhmd/

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.