Dweud eich dweud ar gyllideb 2022/23
Wedi ei bostio ar Friday 14th January 2022
Heddiw, mae Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi cyflwyno cyllideb arfaethedig ar gyfer y flwyddyn i ddod sy'n gweld buddsoddiad yng ngwasanaethau allweddol y cyngor.
Ymhlith y cynigion mae hyd at £8 miliwn ar gyfer ysgolion ac addysg, yn ogystal â buddsoddi mewn gwasanaethau ataliol a chymorth a fydd o fudd i rai o'n trigolion mwyaf agored i niwed.
Ddiwedd mis Rhagfyr, derbyniodd y cyngor ei setliad drafft gan Lywodraeth Cymru - grant sy'n ffurfio dros dri chwarter cyllideb y cyngor. Mae cynnydd o 10.2 y cant wedi cael effaith gadarnhaol ar y cyfleoedd i fuddsoddi mewn gwasanaethau.
Dwedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Roeddem yn ddiolchgar am setliad drafft cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cydnabod y rôl hanfodol y mae awdurdodau lleol yn ei chwarae mewn cymunedau.
"Rydym wedi gweithio'n galed i benderfynu sut y gallwn ddefnyddio'r gyllideb sydd ar gael i ni yn y ffordd orau i gefnogi ein trigolion, cryfhau ein hadferiad o bandemig Covid-19 a pharhau â thwf ein dinas.
Mae'r Cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau i 151,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 65,000 o gartrefi. Ar ôl blynyddoedd lawer o lymder a dim dewis ond torri gwasanaethau, mae'n wych gallu buddsoddi yn y meysydd pwysicaf eleni.
"Fodd bynnag, yn sgil effaith Covid-19 ar fusnesau, yr economi, cyflogaeth ac iechyd, mae'r galw am wasanaethau sy'n seiliedig ar gymorth yn parhau i gynyddu ac mae angen rhoi ystyriaeth ofalus i'r rhain a blaenoriaethau eraill.
"Rydym wedi nodi ein nodau strategol gan ganolbwyntio ar y cymunedau y mae Covid-19 wedi effeithio fwyaf arnynt ac ar sicrhau ein bod yn cefnogi ein heconomi i adfer.
"Mae ysgolion a myfyrwyr hefyd wedi cael eu taro'n arbennig o galed dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi gwneud gwaith anhygoel wrth addasu a pharhau i ddarparu addysg. Mae'r cynigion yn cynnwys cynnydd mewn cyllidebau a fydd o fudd i bob ysgol a myfyriwr."
Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn cynnig cynnydd o 3.7 y cant yn y dreth gyngor, sy'n llai na chyfradd chwyddiant ac sy'n cyfateb i gynnydd wythnosol o rhwng 59c a 79c ar gyfer eiddo ym mandiau tai A i C, y bandiau mwyaf cyffredin yng Nghasnewydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Mudd: "Er bod y dreth gyngor yn cyfrif am lai na chwarter cyllideb y cyngor, rydym yn llwyr werthfawrogi ei fod yn cynrychioli bil sylweddol i drigolion. Ein nod yw cadw cyfradd y dreth gyngor yng Nghasnewydd yn un o'r isaf yng Nghymru - fel rydym wedi'i wneud am flynyddoedd lawer."
Mae ymgynghoriad cyhoeddus bellach ar y gweill a bydd yn para tan ddydd Gwener 11 Chwefror.
Mae rhagor o wybodaeth a'r cyfle i ddweud eich dweud am y cynigion ar gael yn https://www.newport.gov.uk/cy/Council-Democracy/About-the-council/Budget-consultation-2022-2023.aspx
Bydd yr adborth o'r ymgynghoriadau yn cael ei ystyried gan y Cabinet yng nghyfarfod mis Chwefror.
Diwedd