Newyddion

Newid i nifer y galarwyr yn Amlosgfa Gwent: Datganiad FfLlCG Gwent

Wedi ei bostio ar Friday 28th January 2022

Gyda chyhoeddiad Llywodraeth Cymru bod Cymru wedi symud yn llawn i Lefel Rhybudd Sero, mae nifer y galarwyr all fynd i angladdau yng Nghapel Amlosgfa Gwent, Croesyceiliog, wedi cynyddu. 

Gall hyd at 120 o bobl fynd i Gapel Amlosgfa Gwent erbyn hyn. 

Nid oes cyfyngiad ar nifer y galarwyr all fynd i angladd mewn mynwent. 

Bydd trefnwyr angladdau yn gallu rhoi cyngor ar y niferoedd a ganiateir ar gyfer lleoliad angladdau neu wasanaethau coffa. 

Gwneir pob penderfyniad ar nifer y galarwyr a ganiateir yn dilyn adolygiad o asesiadau risg a bydd yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys y canllawiau a'r rheolau yn unol â lefelau rhybudd Llywodraeth Cymru. 

Er gwaethaf llacio'r cyfyngiadau a symud i lefel rhybudd sero, mae achosion mewn cymunedau yn parhau'n uchel iawn ac mae COVID-19 yn dal i ledaenu'n lleol.  Felly, mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o hyd wrth gymryd camau rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws a'i ledaenu. 

Cydnabyddir yn llawn mor anodd a gofidus y gall y cyfnod hwn fod, a bod cefnogaeth a chysur teulu a ffrindiau mor bwysig.  Fodd bynnag, rydym yn annog galarwyr i ystyried y risg wirioneddol o ledaenu ymhellach mewn achlysuron o'r fath a chyfyngu ar y risgiau hynny lle bynnag y bo modd. 

Mae mesurau rhesymol yn cynnwys:

  • Dim ond unigolion sy’n cael eu gwahodd yn benodol gan drefnydd yr angladd all fynd i’r angladd fel galarwr o hyd, ynghyd â gofalwr unrhyw un sy’n mynychu.
  • Parhau i gadw at fesurau hylendid.  Mae golchi dwylo'n aml a defnyddio hylif diheintio dwylo yn bwysig o hyd, yn ogystal ag osgoi cyffwrdd eich trwyn a’ch ceg â dwylo heb eu golchi.
  • Lle bo'n bosibl, dylid cyfyngu ar ddod i gysylltiad corfforol agos.
  • Dylid cadw at ofyniad presennol Llywodraeth Cymru i hunanynysu os oes gennych brawf COVID-19 positif, ac eithrio am resymau tosturiol megis mynychu angladd aelod o'r teulu neu ffrind agos.
  • Cymerwch brawf llif ochrol cyn mynychu angladdau a defnyddiwch app COVID-19 y GIG i gofrestru i’r lleoliad.
  • Mae'n ofynnol i'r rhai sy'n mynychu angladd wisgo gorchudd wyneb drwy gydol y seremoni tra’u bod mewn man cyhoeddus dan do, megis capel yr amlosgfa, ac eithrio unigolion sydd ag esgus rhesymol, megis:

-        rhai nad ydynt yn gallu gwisgo gorchudd wyneb oherwydd salwch corfforol neu feddwl, neu oherwydd anabledd neu nam

-        maent yn hebrwng rhywun sy'n dibynnu ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu.

  • Ni chaniateir canu cynulleidfaol.
  • Rhaid i bawb sy'n bresennol yng Nghapel Amlosgfa Gwent fod yn eistedd. 

Nid ar chwarae bach y gwneir yr holl benderfyniadau ynghylch nifer y galarwyr a ganiateir mewn angladdau.  Mae parch i'r ymadawedig a thosturi at y rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o benderfyniadau, ond rhaid i ddiogelu iechyd a lles y cyhoedd, staff angladdau, claddu a’r Amlosgfa fod yn brif flaenoriaeth yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus parhaus hwn. 

 

Fforwm Lleol Cymru Gydnerth Gwent

 

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.