Newyddion

Pont Caerllion: ar gau am un diwrnod, 16 Ionawr

Wedi ei bostio ar Wednesday 5th January 2022

Bydd Pont Caerllion ar gau rhwng 7.30am a 5pm ddydd Sul 16 Ionawr er mwyn gwneud gwaith arolygu.

Bydd yn cynnwys arolwg radar treiddio tir o'r waliau ac mae'n dilyn gwaith ymchwilio cynharach a gynhaliwyd ym mis Hydref.

Bydd y bont ffordd ar gau i bob cerbyd modur ond gall cerddwyr a beicwyr sydd wedi dod oddi ar eu beic ddefnyddio'r bont i gerddwyr.

Mae'r gwaith hanfodol hwn yn cael ei wneud ddydd Sul er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar breswylwyr a busnesau.  Bydd arwyddion gwyriad ar waith.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.