Storm updates
Wedi ei bostio ar Friday 18th February 2022
Diweddaru : 15:45 Dydd Gwener 18 Chwefror 2022
Effeithir ar wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd yfory ar ôl cyflwyno’r rhybudd tywydd mwyaf difrifol.
Mae rhybudd coch y Swyddfa Dywydd bellach yn oren. Mae pob rhybudd llifogydd ar gyfer Casnewydd nawr wedi’i godi gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae Heol Christchurch ar gau o Victoria Avenue i Ffordd St Julian oherwydd difrod i eiddo ac mae dwy lôn.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Yn bennaf oll, ein blaenoriaeth yw diogelwch ein staff a'n preswylwyr.
"Mae hyn wedi cael ei ddisgrifio fel 'digwyddiad hanesyddol' ac mae'n bosibl mai dyma fydd y storm fwyaf difrifol ers 30 mlynedd. Anogaf breswylwyr i aros gartref pan fydd Storm Eunice yn ein taro yfory oni bai bod eich taith yn gwbl hanfodol, a byddwch yn ofalus os oes rhaid i chi fynd allan.
"Am y rheswm hwn, rydym yn atal rhai gwasanaethau ac yn cau rhai o'n hadeiladau. Nid ar chwarae bach y gwneir y penderfyniad hwn.
"Rydym hefyd wedi cynghori’n gryf i drigolion Lighthouse Park adael eu cartrefi dros dro. Mae'r ystâd yn arbennig o agored i niwed o ystyried bod y safle’n agos at yr arfordir. Rydym yn eu cefnogi ynghyd â'r gwasanaethau brys a'n partneriad.
"Bydd yn rhaid i rai o'n staff fynd allan i wneud eu gwaith o hyd gan gynnwys ein timau gwasanaethau dinesig sydd wrth law bob awr o’r dydd i ddelio ag argyfyngau. Hoffwn ddiolch iddynt hwy a phawb a fydd yn gorfod gadael eu cartrefi yfory i sicrhau bod eraill yn ddiogel ac i ddarparu gwasanaethau hanfodol."
Y gwasanaethau yr effeithir arnynt yfory:
- Mae pob ysgol ar gau i ddisgyblion a staff
- Mae parciau a mynwentydd ar gau
- Bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu hatal dos dro
- Bydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff y Cartref, Usk Way, ar gau
- Bydd llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a chanolfannau cymdogaeth ar gau
- Bydd y Plasty ar gau
- Gellir gwneud galwadau i'r gwasanaethau cymdeithasol yn ôl yr arfer a bydd staff yn ymateb i alwadau brys ac achosion brys
- Bydd gwasanaethau wyneb yn wyneb y Cyngor yng Nghlan yr Afon ar gau
Mae rhwystr llifogydd Caerllion wedi’i godi bellach ac mae Caerleon Road wedi ail-agor.
Cysylltwch â'r Cyngor dros y ffôn dim ond os yw'n gwbl hanfodol gan y bydd staff y ganolfan gyswllt yn delio â materion sy’n ymwneud â Storm Eunice ac yn cynorthwyo gwasanaethau eraill. Am wasanaethau ar-lein ewch i www.casnewydd.gov.uk neu e-bostiwch [email protected]