Newyddion

Dewch i fwynhau eich llyfrgell leol eto

Wedi ei bostio ar Monday 28th February 2022

O ddydd Llun 28 Chwefror, bydd llyfrgelloedd Casnewydd yn dychwelyd i'r un oriau agor a oedd ar waith cyn i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth 2019.

Bydd preswylwyr hefyd yn gallu trefnu i ddefnyddio un o'r cyfrifiaduron cyhoeddus am hyd at uchafswm o ddwy awr.  Ni fydd llyfrau ac eitemau eraill a fenthycwyd yn cael eu rhoi mewn "cwarantin" am 72 awr mwyach.

Mae'r newidiadau'n adlewyrchu'r ffaith bod cyfyngiadau Covid yn cael eu codi yng Nghymru ond, gan fod y feirws yn dal i gylchredeg mewn cymunedau lleol, gofynnir i gwsmeriaid gymryd rhagofalon i amddiffyn defnyddwyr eraill.

Gofynnir iddynt ddilyn canllawiau mwyaf cyfredol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â gwisgo gorchuddion wyneb y tu mewn i'r adeilad, cadw pellter cymdeithasol a pheidio ag ymweld os ydynt yn sâl.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, Aelod Cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros Hamdden a Diwylliant: "Dyma'r camau cyntaf i'r llyfrgelloedd ddychwelyd i weithrediadau cyn Covid ac mae ein staff yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid hen a newydd. 

"Mae gan ein llyfrgelloedd gymaint i'w gynnig - yn ogystal ag ystod eang o lyfrau ar gyfer pob oedran, gall cwsmeriaid ddefnyddio'r cyfrifiaduron cyhoeddus am ddim ac ymchwilio i hanes eu teulu.

"Ers dechrau'r pandemig, mae'r holl eitemau a fenthycwyd wedi cael eu hadnewyddu'n awtomatig bob tair wythnos.  Bydd hyn yn dod i ben ar 28 Mawrth ac rydym yn annog pobl i ddychwelyd llyfrau sydd ganddynt o hyd neu eu hadnewyddu yn unrhyw un o'n safleoedd neu ar-lein.

"Bydd 'amnest dirwy' tan ddechrau mis Gorffennaf gan ein bod yn deall bod dod â'r trefniant adnewyddiadau awtomatig i ben yn newid sylweddol ar ôl dwy flynedd. 

"Rydym hefyd yn cydnabod y gallai rhai eitemau a fenthycwyd fod wedi cael eu camleoli ar ôl cyfnod mor sylweddol o amser felly bydd gan gwsmeriaid tan 4 Gorffennaf i roi gwybod i ni am unrhyw eitemau a gollwyd a byddant yn cael eu tynnu o'u cyfrif.

"Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i wneud pob ymdrech i ddod o hyd i unrhyw eitemau sydd ganddynt a'u dychwelyd fel y gall cwsmeriaid eraill eu mwynhau wrth i ni ddychwelyd i fywyd mwy normal ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi."

Mae gan lyfrgelloedd ar draws y ddinas ddiwrnodau ac amseroedd agor gwahanol.  I gael gwybod pryd y gallwch ymweld â'ch llyfrgell leol ewch i https://www.newport.gov.uk/cy/Leisure-Tourism/Libraries/Newport-Libraries.aspx

More Information