Newyddion

Busnes mawr yn y ddinas i dyfu

Wedi ei bostio ar Wednesday 2nd February 2022

Mae cynnig gan un o fusnesau mwyaf nodedig Casnewydd i ehangu ar safle newydd yn y ddinas wedi cael ei gymeradwyo gan bwyllgor cynllunio'r cyngor.

Mae SPTS Technologies, Cwmni KLA, wedi'i leoli yn ei bencadlys Cymreig ar hyn o bryd, ychydig oddi ar Ringland Way, ond mae'n bwriadu symud i leoliad newydd ar ochr arall Casnewydd ym Mharc Imperial.

Rhoddwyd caniatâd cynllunio, yn amodol ar lofnodi cytundeb 106 ac amodau, ar gyfer pencadlys newydd a fyddai'n cynnwys cyfleusterau ar gyfer gweithgynhyrchu, ymchwil a datblygu yn ogystal â swyddfeydd.

Mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu ac yn gwerthu technoleg y genhedlaeth nesaf ar gyfer y diwydiant lled-ddargludyddion a microelectroneg, wedi'i leoli yng Nghasnewydd ers dros 40 mlynedd.

Mae'r cynnydd byd-eang yn y galw am ddyfeisiau lled-ddargludyddion wedi helpu'r busnes i dyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar ôl ei gwblhau, bydd cyfleuster newydd tra chyfoes y cwmni bron yn dyblu ei ôl troed yng Nghasnewydd, gan ddod â swyddi uwch-dechnoleg, gwerth uchel ychwanegol i'r rhanbarth.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rwy'n falch bod SPTS Technologies wedi'i leoli yng Nghasnewydd ac yn falch iawn ei fod yn bwriadu aros yn y ddinas wrth iddo ehangu.

"Mae'n un o'n busnesau arloesol yn sector uwch-dechnoleg ffyniannus y ddinas ac, yn haeddiannol, mae ganddi statws "cwmni angori" Llywodraeth Cymru i gydnabod ei rôl o ran cynyddu swyddi a thyfu'r economi.

"Rwy'n siŵr y bydd SPTS Technologies yn parhau i chwarae rhan allweddol yn y ddinas ac rwy'n edrych ymlaen at ei dwf yn y dyfodol a'i effaith gadarnhaol ar yr economi leol yn ei chartref newydd."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.