Profion llif unffordd bellach ar gael o hybiau Casnewydd
Wedi ei bostio ar Wednesday 9th February 2022
I gefnogi'r frwydr barhaus yn erbyn Covid yn ein cymunedau, mae profion llif unffordd am ddim bellach ar gael i'w casglu o nifer o leoliadau ledled y ddinas.
Bydd dau flwch ar y mwyaf ar gael i bob person, gyda phob blwch yn cynnwys saith prawf unigol.
Mae profion llif unffordd hefyd ar gael o fferyllfeydd (chwiliwch ble i gael profion llif unffordd cyflym - GIG) neu gellir eu harchebu yn gov.uk neu drwy ffonio 119.
Pryd i ddefnyddio prawf llif unffordd
Os ydych dros 11 oed dylech gymryd profion llif unffordd yn rheolaidd a rhoi gwybod am eich canlyniadau. Mae profion llif unffordd ar gael i bawb yn rhad ac am ddim.
Mae profion llif unffordd ar gyfer pobl nad oes ganddynt symptomau Covid-19. Os oes gennych unrhyw symptomau, dylech drefnu prawf PCR (ar llyw.cymru).
Yn ogystal â phrofi'n rheolaidd, dylech hefyd gymryd prawf llif unffordd:
- os byddwch mewn sefyllfaoedd risg uwch gan gynnwys treulio amser mewn mannau caeedig neu sy’n llawn pobl
- cyn i chi ymweld â phobl sydd mewn perygl uwch o fod yn sâl iawn gyda Covid-19
- os ydych yn teithio i rannau eraill o Gymru neu'r DU
- os ydych wedi’ch nodi’n gyswllt rhywun arall sydd wedi cael prawf positif am COVID-19.
MAE'N BWYSIG RHOI GWYBOD AM EICH CANLYNIADAU
Gellir gwneud hyn ar-lein (y ffordd gyflymaf) yn: https://www.gov.uk/cofnodi-canlyniad-covid19 neu dros y ffôn ar 119 (am ddim o ffonau symudol a llinellau tir). Rydym ar agor o 7am tan 11pm bob dydd.
Lleoliadau casglu profion llif unffordd:
Hyb y Gorllewin
Canolfan Gymunedol Maesglas
Bideford Road
Casnewydd, NP20 3XT
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 4pm.
Hyb y Gogledd
Canolfan Gymunedol Betws
43 The Precinct
Betws, NP20 7TN
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 4pm.
Yr Hyb Canolog
Canolfan Mileniwm Pilgwenlli
Courtybella Terrace
Casnewydd, NP20 2GH
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 4pm.
Hyb y Dwyrain
Canolfan Gymunedol Ringland
282 Ringland Circle
Casnewydd NP19 9PS
Oriau Agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9am - 4.30pm
Llyfrgell Tŷ-du
Castle View
146 Tregwilym Road
Tŷ-du
Casnewydd, NP10 9EL
Oriau Agor:
Dydd Llun, Dydd Mawrth, Dydd Iau a Dydd Gwener, 9.30am - 1pm a 2pm - 4.30pm
Dydd Sadwrn 9.30am – 1pm
Dydd Mercher Ar gau