Ymosodiad ar Wcráin: datganiad yr arweinydd
Wedi ei bostio ar Friday 25th February 2022
Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd: "Rydym yn meddwl am bobl Wcráin yn ogystal â theulu a ffrindiau y tu allan i'r wlad gan gynnwys y rheiny sy'n byw yn ein dinas ein hunain.
"Mae'n sefyllfa dorcalonnus i'r rheiny yr effeithir arnynt ac rydym yn sefyll mewn undod â nhw ac yn cefnogi sancsiynau yn erbyn Rwsia.
"Mae gan Gasnewydd draddodiad hir a balch o roi noddfa i ffoaduriaid a byddwn yn gwneud yr hyn a allwn i helpu'r rheiny sy'n gorfod ffoi o'u cartrefi a'u gwlad o ganlyniad i'r ymosodiad creulon a direswm hwn."