Newyddion

Baner wedi'i chodi i gefnogi Mis Hanes LHDT+

Wedi ei bostio ar Tuesday 1st February 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn falch o gefnogi Mis Hanes LHDT+ a gynhelir ym mis Chwefror. 

I nodi dechrau'r mis, croesawodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd,  Cyng Laura Lacey  Pencampwr LHDTC+, Adam Smith, Enfys Casnewydd, a Dan Earnshaw Cadeirydd Rhwydwaith Pride. i godi'r faner Cynnydd y tu allan i'r Ganolfan Ddinesig. 

Dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Mae'r mis hwn yn gyfle i ni gydnabod a dathlu pobl LHDTC+, yn ogystal â myfyrio ar sut y gallwn gydweithio i greu cymdeithas fwy cyfartal i bawb. 

"Rydym am i Gasnewydd fod yn ddinas gynhwysol lle mae pobl LHDTC+, eu hanes, eu bywydau a'u profiadau yn cael eu gwerthfawrogi. Rydym yn gweithio gyda'n rhwydwaith Pride i gryfhau ein sefyllfa fel cyngor a dinas gynhwysol, yn ogystal â sicrhau bod ein staff yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi." 

Eleni yw hanner canmlwyddiant yr orymdaith Pride gyntaf yn y DU. I ddysgu rhagor am y mis ewch i https://lgbtplushistorymonth.co.uk/

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.