Newyddion

Strategaeth cartrefi gwag y Cyngor yn cael effaith

Wedi ei bostio ar Friday 11th February 2022

Gall eiddo sy'n cael eu gadael yn wag am amser hir gael effaith andwyol ar gymunedau lleol pan allent fod yn llenwi bwlch yn y farchnad dai.

Mabwysiadodd Cyngor Dinas Casnewydd strategaeth i droi mwy o'r eiddo gwag hirdymor hyn yn gartrefi eto.

Mae'n nodi sut y bydd yn gweithio gyda pherchnogion, asiantaethau partner a phreswylwyr i leihau effaith tai gwag a bodloni'r galw cynyddol am dai.

Ond mae hefyd wedi ymrwymo i weithredu'n gadarn, gan gynnwys gorfodi gwerthiant, lle mae perchnogion yn methu â chymryd cyfrifoldeb am eu heiddo.  Os yw'r cyngor yn gwneud gwaith statudol a bod y perchennog yn methu â thalu'r gost, nid oes angen gorchymyn llys bob amser i orfodi'r gwerthiant. 

 Gwerthwyd un tŷ gwag hirdymor ger canol y ddinas yn ddiweddar mewn ocsiwn gan y perchennog. 

Roedd hwn yn werthiant gwirfoddol ond yn dilyn gwaith gan y cyngor i sicrhau ei fod yn delio â'r mater a nod y cyngor nawr yw gweithio gyda'r perchennog newydd i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd fuddiol eto.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Jane Mudd: "Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r broblem cartrefi gwag hirdymor er mwyn lleihau eu heffaith ar gymdogion a chymunedau lleol yn ogystal â diwallu'r angen cynyddol am dai.

"Rydym yn cymryd camau cryf lle bo angen, gan gynnwys gwerthiannau gorfodol, ac ni roddir gostyngiad treth gyngor mwyach ar gyfer eiddo o'r fath ac eithrio rhai eithriadau fel y perchennog yn mynd i ofal preswyl. 

"Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, rydym am helpu perchnogion i sicrhau bod y tai hyn yn cael eu defnyddio eto drwy gynnig cyngor arbenigol a thrwy fentrau fel ein cynllun benthyciadau gwella.

"Cam cyntaf y cyngor fyddai cysylltu â pherchnogion tŷ gwag sy'n achosi problemau i gymdogion a'r gymuned ehangach i ofyn iddynt unioni'r problemau.                                                                                                                           .

"Ond, os bydd angen, byddwn yn defnyddio ein pwerau statudol.   Mae gormod o dai yn wag yn y ddinas heb reswm da, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w troi'n gartrefi i unigolion a theuluoedd sydd eu hangen."

Dysgwch fwy am sut mae'r cyngor yn delio â chartrefi gwag yn https://www.newport.gov.uk/cy/Planning-Housing/Housing/Empty-homes/Empty-homes.aspx

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.