Newyddion

Gwaith cadwraeth yn parhau wrth i Long Casnewydd baratoi i nodi ugain mlynedd ers ei darganfod

Wedi ei bostio ar Tuesday 15th February 2022

Mae’r gwaith cadwraeth ar Long Casnewydd yn dwysau wrth i ni nesáu at ugain mlynedd ers ei darganfod.

Cyrhaeddodd y llwyth diweddaraf o bren y Cyngor a phartneriaid cyfeillion Llong Casnewydd (FONS) yn ddiweddar gan gontractwr cadwraeth arbenigol, Mary Rose Archaeological Services.

Roedd y llwyth diweddaraf yn cynnwys rhan fawr o'r cam mast canolog, yn ogystal â nifer o dulathau derw hir a ddefnyddiwyd i gryfhau'r llong.

Mae dros naw deg y cant o bren y llong wedi'u dychwelyd hyd yma. Ar ôl i weddill y pren fynd drwy'r cam cadwraeth yn ddiweddarach eleni, byddwn yn dechrau gweithio ar gam nesaf y prosiect, sef y gwaith cymhleth o roi’r llong yn ôl at ei gilydd.

Mae eleni'n nodi ugain mlynedd ers i'r llong gael ei darganfod ar lannau Afon Wysg wrth adeiladu Theatr Glan yr Afon. I nodi'r pen-blwydd, mae tîm y prosiect a FONS yn cynllunio rhaglen gyffrous o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Sgwrs gyhoeddus ar hanes y llong gan guradur y prosiect Dr Toby Jones (Dydd Iau 12 Mai, 7.00pm yn Sefydliad Lysaght)
  • Ysgarmes ganoloesol yn y ganolfan longau gan gynnwys perfformwyr, gweithgareddau teuluol a theithiau.

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Harvey, aelod cabinet dros ddiwylliant a sgiliau: "Mae nodi ugain mlynedd ers darganfod Llong Casnewydd yn garreg filltir sy'n haeddu cael ei dathlu.

"Ynghyd â'n partneriaid Cyfeillion Llong Casnewydd, mae'r Cyngor yn arwain y gwaith caled i sicrhau bod y darn pwysig hwn o'n hanes yn cael ei gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol i'w fwynhau.

"Wrth i ni barhau i wneud gwaith cadwraeth, rwy'n falch o gyhoeddi ein rhaglen o ddigwyddiadau i nodi'r pen-blwydd hwn. Rwy'n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn dod at ei gilydd ac yn ymuno â ni i ddathlu ein llong ryfeddol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfeillion Llong Casnewydd: "Roedd gwirfoddolwyr Cyfeillion Llong Casnewydd yn falch iawn o gael rhoi eu profiad ar waith ar y cyd, i gynorthwyo gyda llwyth arall o’r pren llongau o gyfleuster rhewi Mary Rose wrth iddo ddychwelyd i'r ganolfan longau.

"Gan weithio gyda'r tîm o'r Cyngor rydym yn edrych ymlaen at ddathlu rhyfeddodau treftadaeth forol amrywiol Casnewydd ugain mlynedd ar ôl darganfod y llong."

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y llong, ac i gael gwybod mwy am y rhaglen o ddigwyddiadau i nodi’r garreg filltir, dilynwch cyfryngau cymdeithasol y Cyngor a FONS neu ewch i www.newport.gov.uk/heritage/cy/Homepage.aspx a www.newportship.org.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.