Newyddion

Cynigion cyllideb Casnewydd – dweud eich dweud

Wedi ei bostio ar Wednesday 14th December 2022

Mae cabinet Cyngor Dinas Casnewydd wedi ystyried y gyllideb ar gyfer 2023/24 a sut y bydd angen i wasanaethau newid yn wyneb her ariannol fawr.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfres o gynigion yn cael ei lansio yfory (15 Rhagfyr) a bydd yn rhedeg tan 2 Chwefror 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: “Gyda bwlch yn y gyllideb o £27.6 miliwn, bydd llawer o benderfyniadau anodd i'w gwneud.

"Rydym yn croesawu y setliad drafft gan Lywodraeth Cymru a gafwyd yn gynharach heddiw sy'n cyfrif tuag at bron i dri chwarter o'n cyllideb sydd ar gael. Ond mae'r materion yn ymwneud â chyllid teg i Gymru yn rhedeg yn llawer dyfnach.

"Er bod y setliad yn gadarnhaol, nid yw'n ddigon i gau'r bwlch cyfan. Bydd yn rhoi rhywfaint o gyfle i ystyried y cynigion mwyaf annymunol. Ond, fel y rhan fwyaf o gynghorau yng Nghymru rydyn ni'n dal i gael ein hunain yn y sefyllfa anhyfyw o orfod newid y ffordd rydyn ni'n darparu nid yn unig gwasanaethau cefn swyddfa, ond gwasanaethau rheng flaen hefyd - yn syml iawn, mae'r galw yn fwy na'r arian sydd ar gael.

"Daw hyn ar ôl blynyddoedd lawer o lymder pan wynebon ni doriadau i gyllidebau. Mae Cyngor Dinas Casnewydd eisoes wedi gwneud dros £90m o arbedion ers 2011, felly prin yw'r dewisiadau sydd ar ôl.

"Yn ychwanegol at hynny, mae dwy ran o dair o gyllideb y Cyngor yn cael eu gwario ar ysgolion, addysg a gofal cymdeithasol - y gwasanaethau cwbl hanfodol, lle mae arbedion yn anodd iawn i'w gwneud.”

Yng nghyfarfod y Cabinet, amlinellodd y Cynghorydd Mudd y sefyllfa o ran ariannu ysgolion:

“Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n hysgolion a’u cefnogi i ddarparu’r addysg orau i’n disgyblion – dyna pam yr arhosom am y setliad drafft ac felly darlun cliriach cyn cyflwyno’r cynigion ariannu ysgolion.

“Rydyn ni’n gwybod eu bod nhw hefyd yn wynebu cynnydd sylweddol mewn costau ac eisiau eu hamddiffyn nhw orau y gallwn ni, ond oherwydd maint yr her ariannol, allwn ni ddim eu gwarchod nhw’n llwyr.

“Byddwn yn ymgynghori ar gynnig lle byddwn yn darparu cyllid ychwanegol i ysgolion sy’n golygu cynnydd cyffredinol yng ngwerth arian parod cyfanswm cyllideb yr ysgol.

“Bydd yn talu am effaith cost cynnydd yn nifer y disgyblion a 50 y cant o’r pwysau a nodwyd yn ymwneud â chyflogau. Mae hyn yn golygu y bydd yn ofynnol i ysgolion amsugno’r cydbwysedd pwysau cyflog ac unrhyw gynnydd chwyddiant arall mewn costau.”

Trafodwyd Treth y Cyngor hefyd gan gydnabod yr effaith y mae’n ei chael ar bob aelwyd:

“Un rhan o’r gyllideb sydd bob amser yn anodd creu cydbwysedd ynddi yw’r dreth gyngor. Er ei bod yn cyfrannu llai na chwarter i’r gyllideb gyfan, rydym yn deall ei bod yn wariant mawr i drigolion.

“Mae Casnewydd yn gyson wedi bod y ddinas sy’n codi’r gyfradd dreth gyngor isaf yng Nghymru - ac, waeth faint bynnag yr hoffem beidio, mae’n rhaid i ni ystyried ei chodi. Hyd yn oed gyda chynnydd sylweddol byddem i filiau barhau’n isel iawn o gymharu ag awdurdodau eraill.

"Ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cynnydd o 9.5 y cant. Mae mwyafrif cartrefi Casnewydd yn cwympo yn y bandiau A i C, felly mae hyn yn gynnydd o rhwng £1.55 a £2.07 yr wythnos.”

Mae enghreifftiau o'r costau a'r pwysau cynyddol sy’n cael eu hwynebu gan y Cyngor yn cynnwys:

  • Mwy o gostau tanwydd ac ynni - mae nwy 300% yn uwch, mae trydan 150% yn uwch. Mae hyn yn effeithio ar bopeth o ysgolion i oleuadau stryd.
  • Mwy o alw am ofal - mae costau wedi codi o £43.5m yn 2019/20 i ragamcan o £58m eleni.
  • Roedd tua 1,000 yn rhagor o ddisgyblion yn mynychu ysgolion Casnewydd yn ystod y tair blynedd diwethaf.
  • Yn gysylltiedig â heriau'r pandemig, mwy o leoliadau brys i blant sy'n derbyn gofal. Rhagwelir cost o £2.2m yn 2022/23 o'i gymharu â £300 mil yn 2019/20.
  • Mae cyfraddau chwyddiant o tua 10% yn cynyddu cost yr holl wasanaethau a chyflenwadau sy'n cael eu prynu gan y Cyngor.
  • Mae'r Cyngor yn darparu dros 800 o wasanaethau ar gyfer 155,000 o bobl sy'n byw mewn mwy na 65,000 o aelwydydd. Gydag effaith Covid-19 a nawr yr argyfwng costau byw ar unigolion, busnesau, yr economi, cyflogaeth, ac iechyd, rydym yn gweld y galw am wasanaethau cymorth yn parhau i godi.

Gellir gweld y cynigion ar gyfer 2023/24 yn www.newport.gov.uk/Cyllideb ynghyd â rhagor o wybodaeth am o ble y daw cyllid y Cyngor a heriau cyffredinol y gyllideb.

Gallwch hefyd gyflwyno sylwadau yn ysgrifenedig i Radbost TÎM POLISI A PHARTNERIAETH, Cyngor Dinas Casnewydd, y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd NP20 4UR neu drwy e-bost i [email protected] 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn para tan 2 Chwefror 2023. Bydd yr holl sylwadau yn cael eu hystyried pan fydd y cabinet yn cyfarfod eto ar 14 Chwefror pan fyddant yn gwneud eu hargymhellion terfynol ar y gyllideb gyffredinol ar gyfer 2023/24.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.