Newyddion

Mae ymgyrch yn erbyn tybaco anghyfreithlon yn arwain at ganlyniadau gwych

Wedi ei bostio ar Friday 30th December 2022

Mae gwaith gan dîm safonau masnach Cyngor Dinas Casnewydd dros y 12 mis diwethaf wedi cynnwys targedu gwerthiant tybaco anghyfreithlon yn y ddinas. 

Mae 12 atafaeliad eitemau wedi’u gwneud, gydag amcangyfrif gwerth manwerthu o £746,000, gan gynnwys mwy nag 1.3m o sigaréts a 172kg o dybaco rholio â llaw. 

Cafwyd 19 gorchymyn cau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn llwyddiannus, ac amcangyfrifir bod hyn wedi atal gwerthiant tybaco anghyfreithlon pellach gwerth o leiaf £850,000. 

Mae canllawiau hefyd wedi'u darparu i sawl awdurdod safonau masnach yn y DU sy'n ystyried defnyddio gorchmynion cau ymddygiad gwrthgymdeithasol i fynd i'r afael â materion tybaco anghyfreithlon yn eu hardaloedd. 

Arweiniodd pedwar erlyniad at gosbau gan gynnwys dirwyon, gwaith di-dâl a chostau. Dan Ddeddf Enillion Troseddau fe atafaelwyd £1,200 gyda £100,000 yn destun gorchymyn ataliaeth.  Mae chwe ymchwiliad yn parhau. 

Cefnogwyd yr ymchwiliadau gan dîm safonau masnach y cyngor gan bartneriaid o Heddlu Gwent, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Ash Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Newport NOW, Tollau Tramor a Chartref EM, cynrychiolwyr o'r diwydiant tybaco a swyddogion Ymgyrch CeCe, tîm safonau masnach arbenigol sy'n mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon. 

Dywedodd y Cynghorydd James Clarke, aelod cabinet Cyngor Dinas Casnewydd dros gynllunio strategol, rheoleiddio a thai: "Hoffwn ganmol ein swyddogion, a'n partneriaid, am gymryd camau cadarn i fynd i'r afael â gwerthiant tybaco anghyfreithlon. 

"Mae'n hysbys bod gwerthiant o'r fath yn tanseilio mesurau rheoli tybaco allweddol ac yn ariannu gweithgarwch troseddol yn ein cymunedau. 

"Byddwn yn parhau i ddilyn y rhai sy'n cymryd rhan yn y drosedd hon ac yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthiant tybaco anghyfreithlon yn y ddinas i roi gwybod i ni amdano." 

Gellir rhoi gwybod am wybodaeth yn https://noifs-nobutts.co.uk/report-illegal-tobacco-in-wales/ 

Mae swyddogion safonau masnach Casnewydd hefyd wedi llwyddo i gael gwared ar e-sigarennau anghyfreithlon o fod ar werth. 

  • Mae dros 200 o fusnesau wedi cael eu harolygu.
  • Atafaelwyd 1,524 o e-sigarennau anghyfreithlon, sydd â gwerth cyfunol o bron £14,000.
  • Cymerwyd e-sigarennau anghyfreithlon o fod ar werth mewn 20 safle.
  • Fe wnaeth erlyniad arwain at ddirwy o £1,332 ynghyd â chostau o £1,046. 

Dywedodd y Cynghorydd Clarke:  "Roedd e-sigarennau anghyfreithlon yn peri risg difrifol i iechyd, ac unwaith eto hoffwn ddiolch i'n swyddogion am eu gwaith yn y maes hwn. Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y posibilrwydd o werthu e-sigarennau anghyfreithlon gysylltu â'r cyngor."

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.