Newyddion

Y Cyngor yn derbyn gwobr am brosiect adnewyddu'r farchnad

Wedi ei bostio ar Friday 2nd December 2022

Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn gwobr am ei waith i sicrhau bod Marchnad Casnewydd yn parhau wrth galon canol y ddinas.

Daeth y prosiect i’r brig yn y categori Creu Twf Economaidd yng Ngwobrau Ystadau Cymru 2022.

Mae Ystadau Cymru (a elwid gynt yn Gweithgor Asedau Cenedlaethol) yn annog rhagoriaeth mewn rheoli ystâd sector cyhoeddus Cymru drwy gydweithrediad strategol ac arfer da.

Mae'r categori creu twf economaidd yn ceisio cydnabod prosiectau sydd, drwy gydweithio, wedi creu twf economaidd gan ddefnyddio'r ystâd gyhoeddus.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd y Cyngor: "Mae'n bwysicach nag erioed i gael cymysgedd o gyfleusterau ar y stryd fawr ac roedd hi'n amlwg iawn i ni bod y farchnad yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hynny yng Nghasnewydd.

"Yn yr un modd, mae defnyddio dull creadigol o ailddatblygu a defnyddio ein hasedau yn effeithiol yn flaenoriaeth i Gyngor Dinas Casnewydd, boed yn gweithio gyda datblygwyr arbenigol neu drosglwyddo asedau i'r gymuned.

"Mae Marchnad Casnewydd bellach yn cynnig cyrchfan gyfoes a deniadol sy'n cynnig cyfleoedd lletygarwch, manwerthu, busnes, hamdden a digwyddiadau. Hefyd, mae dyfodol yr adeilad nodedig wedi'i sicrhau.

"Mae'r effaith y mae adfywio'r adeilad ei hun eisoes wedi'i chael yn glir - swyddi yn cael eu creu, cwmnïau lleol yn sicrhau contractau a gyrfaoedd y dyfodol yn cael eu cefnogi. Mae'r manteision yn parhau gyda'r farchnad bellach ar agor ac yn datblygu enw da fel canolfan economaidd, cymdeithasol a diwylliannol.

"Diolch o galon i bawb sydd wedi gweithio gyda ni i gyflawni’r prosiect anhygoel hwn."

Mae'r farchnad, sy’n adeilad rhestredig Gradd II, wedi bod dan berchnogaeth y Cyngor ers 1885 ac ers blynyddoedd lawer bu'n ffynnu fel marchnad darpariaethau traddodiadol.

Er gwaethaf prosiectau buddsoddi ac adnewyddu yn gynharach y ganrif hon, a gwaith i ehangu cynigion y farchnad, methodd â masnachu i'w llawn botensial economaidd yn y farchnad fodern.

Cydnabuwyd mai'r ateb tymor hir ar gyfer dyfodol y farchnad oedd i'r Cyngor bartneru ag arbenigedd o'r sector preifat ym maes adnewyddu a rheoli adeiladau hanesyddol. Ym mis Gorffennaf 2018, cytunodd y Cyngor ar brydles ailddatblygu 250 mlynedd ar gyfer y Farchnad gyda LoftCo, y datblygwr y tu ôl i drawsnewid Tramshed Caerdydd a Thŷ Pwmpio’r Barri.

Yn dilyn prosiect ailddatblygu gwerth £6.5 miliwn, ailagorwyd y farchnad ar ei newydd wedd ym mis Mawrth 2022 ac mae bellach yn cynnig cwrt bwyd, stondinau marchnad wedi'u hadnewyddu, lleoedd gwaith cyfoes a gofod digwyddiadau. Y gred yw mai dyma'r ailddatblygiad marchnad dan do mwyaf o'r fath sydd wedi’i gynnal yn Ewrop.

Mae rhai o'r twf economaidd a'r allbynnau a gyflawnwyd gan y prosiect yn cynnwys:

  • creu 155 o swyddi
  • darparu ar gyfer 207 o swyddi
  • 185 o swyddi adeiladu
  • 5 rhaglen hyfforddi
  • darparu ar gyfer 311 o fentrau
  • adnewyddu 4,500 metr sgwâr
  • adnewyddu 141 o eiddo amhreswyl
  • 15 BBaCh yng Nghymru yn sicrhau contractau
  • dyfarnu gwerth £4.6 miliwn mewn contractau i BBaCh sydd wedi'u lleoli yng Nghymru

Cyflwynodd Rebecca Evans AoS, y Gweinidog dros gyllid a llywodraeth leol, y wobr yng Nghynhadledd Ystadau Cymru ddydd Iau 1 Rhagfyr 2022.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.