Newid lleoliad ar gyfer apwyntiadau gwasanaeth
Wedi ei bostio ar Thursday 11th August 2022
Ers mis Medi diwethaf, mae apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gyfer rhai o wasanaethau Cyngor Dinas Casnewydd wedi'u cynnal yng Nglan yr Afon.
O 15 Awst ymlaen, bydd staff y cyngor yn gadael lleoliad Casnewydd Fyw ar gyfer cartref dros dro newydd yn y Tŷ Cyfnewid, Stryd Fawr.
Bydd hyn eto ar gyfer rhai ymholiadau yn ymwneud â thai, budd-daliadau tai, treth gyngor a'r rhai a benodwyd, a bydd ar sail apwyntiad yn unig.
Y disgwyl yw y bydd staff yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau hyn o’r Tŷ Cyfnewid nes eu bod yn symud i mewn i'r adeilad sydd hefyd yn gartref i'r Llyfrgell Ganolog, Amgueddfa ac Oriel Gelf yn Sgwâr John Frost.
Ar ôl cwblhau'r gwaith, bydd rhai gwasanaethau a oedd wedi'u lleoli yn yr Orsaf Wybodaeth yn cael eu darparu o'r adeilad wedi’i adnewyddu. Bydd staff canolfan gyswllt y Cyngor hefyd wedi'u lleoli yno.
Hoffem ddiolch i Casnewydd Fyw am gynnal staff yng Nglan yr Afon ac i Pobl am ddarparu safle newydd dros dro yn y Tŷ Cyfnewid.
Yn y lle cyntaf, dylid gwneud ymholiadau gan wasanaethau i [email protected] neu ffoniwch 01633 656656 a gwneir apwyntiadau os oes angen.