Condemnio Fandaliaid Coed
Wedi ei bostio ar Monday 8th August 2022
Mae fandaliaid wedi difrodi pum coeden a blannwyd yn un o barciau addurnol hardd Casnewydd.
Dywedodd y Cynghorydd Yvonne Forsey - Yr aelod cabinet dros newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth: "Rwy'n condemnio'n llwyr y fath fandaliaeth ddifeddwl a dibwrpas.
"Coed ifanc oeddent i gyd ond cafodd tair eu plannu bron i dair blynedd yn ôl ac roedd y ddwy arall yn goed afalau bach o'r berllan a gafodd eu plannu y gaeaf diwethaf yn unig.
"Mae ein parciau Baner Werdd yn rhoi llawer o bleser i gymaint o bobl yn y ddinas ac mae'r coed yn rhan gynhenid a gwerthfawr o'r mannau gwyrdd gwych hyn.
"Byddwn yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am y drosedd hon, neu unrhyw ddigwyddiadau tebyg, i gysylltu â Heddlu Gwent."
Y tair coeden arall a ddifrodwyd oedd prunus, liquidambar, a ginkgo.