Ffair recriwtio ym Marchnad Casnewydd
Wedi ei bostio ar Tuesday 30th August 2022
Mae Marchnad Casnewydd yn cynnal ffair recriwtio ar 21 Medi mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, Canolfan Byd Gwaith a Restart Casnewydd.
Mae'n dilyn digwyddiad llwyddiannus tebyg yng Nghanolfan Casnewydd ym mis Mai pan wnaeth mwy na 40 o gyflogwyr arddangos eu swyddi gwag.
Mae cyflogwyr o bob sector i fod i fynychu ffair recriwtio mis Medi gan gynnwys rhai o'r mwyaf yn ne Cymru.
Mae Marchnad Casnewydd yn lleoliad delfrydol, sy'n cynnig cyfleusterau ardderchog ac yn lleoliad gwych yng nghanol y ddinas yn agos at gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus â meysydd parcio cyhoeddus daith gerdded fer i ffwrdd.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal rhwng 10am a 2pm.
I gofrestru diddordeb: www.tinyurl.com/2p9yu3md