Cymeradwyo cynllun newydd i dyfu addysg Gymraeg yng Nghasnewydd
Wedi ei bostio ar Friday 12th August 2022
Mae cynllun newydd i gynyddu nifer y disgyblion mewn addysg Gymraeg wedi ei gymeradwyo.
Cafodd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg diweddaraf Cyngor Dinas Casnewydd ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru 'nôl ym mis Gorffennaf.
Mae'r cynllun, sy'n ymdrin â'r cyfnod rhwng Medi 2022 ac Awst 2032, yn nodi'r camau y bydd y cyngor yn eu cymryd i gyrraedd targed cyffredinol Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer dysgwyr Blwyddyn 1 sy'n cael mynediad at addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae hefyd yn nodi pa gamau y bydd y cyngor yn eu cymryd:
- i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg sy'n defnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ystafell ddosbarth
- i gynyddu nifer y dosbarthiadau i ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) sy'n dysgu trwy’r Gymraeg
- i gynyddu nifer yr athrawon a'r staff sy'n gallu addysgu Cymraeg ac yn Gymraeg
Mae'r cynllun yn cysylltu â strategaeth hyrwyddo'r iaith Gymraeg newydd pum mlynedd y cyngor, a'n gweledigaeth y gall pawb yng Nghasnewydd ddefnyddio, gweld a chlywed y Gymraeg fel iaith fyw ymhob rhan o fywyd ar draws y ddinas.
Wrth sôn am y cynllun, dywedodd y Cynghorydd Deb Davies, dirprwy arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros addysg a'r blynyddoedd cynnar: "Dwi'n falch iawn bod ein cynllun diweddaraf wedi ei gymeradwyo'n ffurfiol gan Lywodraeth Cymru.
"Nid yn unig mae'r cynllun yn amlinellu llwybr ymarferol i fodloni disgwyliadau'r llywodraeth, ond mae hefyd yn adlewyrchu ein huchelgeisiau fel cyngor ar gyfer lle rydym am weld addysg cyfrwng Cymraeg ymhen deng mlynedd.
"Hoffwn ddiolch i'n swyddogion am eu gwaith yn rhoi'r cynllun hwn at ei gilydd, ynghyd â'n holl bartneriaid a gyfrannodd at y broses."
Y cynllun llawn yn ar gael ar wefan y cyngor.