Newyddion

Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog

Wedi ei bostio ar Friday 19th August 2022

Lefelau dŵr isel yng Nghamlas Sir Fynwy a Brycheiniog yng Nghasnewydd a achosir gan faterion y tu allan i ffiniau'r ddinas. 

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau partner fel Cyfoeth Naturiol Cymru, cynghorau cyfagos a’r Ymddiriedolaeth Camlesi i reoli lefelau’r dŵr a llif y dŵr drwy'r system. 

Fodd bynnag, rydym wedi ein cyfyngu gan gyfaint y dŵr sydd ar gael o rannau uwch y system sy'n profi problemau. 

Cafodd y sianel ei chlirio ychydig yn y misoedd diwethaf, ond yn anffodus nid oedd yn ddigon i wella lefelau oherwydd diffyg glaw. 

Rydym yn ymwybodol bod lefelau dŵr yn isel ond ar hyn o bryd nid oes ffynonellau dŵr i ddargyfeirio i'r ardal hon. 

Yn ffodus, symudwyd y rhan fwyaf o'r pysgod o'r pwll hwn i rannau eraill lle mae'r lefelau'n ddigonol, felly ni ddylai fod effaith fawr ar y rhywogaethau dyfrol, ond rydym yn gwerthfawrogi bod pobl yn poeni am yr adar dŵr ac adar eraill a byddwn yn monitro'r sefyllfa. 

Mae'r Cyngor yn ceisio arian i ddad-siltio ac ail-leinio’r sianel ac i gwblhau gwaith arall. 

Mae tua saith milltir o gamlas o fewn dinas Casnewydd ac mae’n rheoli'r ased gymunedol hon gydag adnoddau cyfyngedig. 

Mae arian sy'n cael ei neilltuo ar gyfer gwaith rheoli safonol yn aml yn cael ei ddargyfeirio i ddelio â gwaith brys fel gollyngiadau, fandaliaeth a thresmasu.

Lle bo'n bosibl, rydym wedi defnyddio adnoddau allanol i fynd i'r afael â materion fel cynnal a chadw'r arwyneb a rheoli'r tir, drwy greu llwybrau teithio llesol ar hyd y llwybrau tynnu. Mae gwaith amhrisiadwy hefyd yn cael ei wneud gan grwpiau gwirfoddol yr Ymddiriedolaeth Camlesi a'r Gwasanaeth Cefn Gwlad.  

Rydym yn deall rhwystredigaethau pobl leol yn llwyr a byddwn yn parhau i chwilio am arian i wella'r gamlas ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned am unrhyw waith a allai gael ei wneud i helpu i leddfu'r sefyllfa.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.