Newyddion

Ysgol Gynradd Millbrook

Wedi ei bostio ar Wednesday 31st August 2022

Bydd disgyblion a staff Ysgol Gynradd Millbrook yn adleoli dros dro tra bod gwaith ymchwilio adeiladau yn cael ei wneud ar safle Betws. 

Roedd plant i fod i ddychwelyd i'r ysgol ddydd Llun 5 Medi ar gyfer dechrau tymor yr hydref. 

Bydd disgyblion dosbarth derbyn i flwyddyn chwech yn dechrau tymor yr hydref ddydd Iau 8 Medi yn hen ganolfan hyfforddi oedolion Brynglas. 

Bydd hyn yn rhoi amser i staff ysgolion drawsnewid y ganolfan i fod yn ystafelloedd dosbarth. 

Bydd cludiant yn cael ei ddarparu o ac i'r Betws a bydd prydau poeth yn cael ei ddanfon i Frynglas bob amser cinio. 

Nodwyd materion posibl gydag adeilad Millbrook yn nhymor yr haf ac, yn dilyn gwaith pellach yn ystod y gwyliau, penderfynwyd y dylid cynnal arolygon mwy helaeth i gael adroddiad cyflwr llawn. 

Er mwyn i hyn allu digwydd yn ddiogel ac i darfu cyn lleied â phosibl ar addysg y plant, penderfynwyd adleoli'r ysgol. 

Bydd y feithrinfa yn aros ym Metws ond bydd yn trosglwyddo i adeilad ar safle Ysgol Gymraeg Ifor Hael ger Millbrook.  

Mae wedi bod yn sefyllfa heriol ond mae Cyngor Dinas Casnewydd a'r ysgol yn gwneud popeth posib er mwyn i'r adleoli hanfodol hwn ddigwydd yn ddiogel ac er lles yr ysgol. 

Y bwriad yw mai mesur tymor byr yw hwn ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddychwelyd yr ysgol i safle Millbrook cyn gynted â phosib. 

Y flaenoriaeth yw sicrhau bod y plant a'r staff yn cael setlo i'w cartref dros dro fel nad oes effaith ar les nac addysg. 

Mae rhieni a gofalwyr, staff a llywodraethwyr wedi cael eu hysbysu a byddant yn cael eu diweddaru pryd bynnag fydd rhagor o wybodaeth ar gael. 

Mae trefniadau eraill yn cael eu gwneud ar gyfer darpariaeth Dechrau'n Deg ar safle Betws a bydd gwybodaeth yn cael ei rhoi yn uniongyrchol i rieni a gofalwyr.

 

 

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.