Newyddion

Diwrnod canlyniadau TGAU

Wedi ei bostio ar Thursday 25th August 2022

Mae disgyblion a myfyrwyr ar draws Casnewydd wedi bod yn casglu eu canlyniadau TGAU a’u canlyniadau cymwysterau eraill heddiw. 

Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg yng Nghyngor Dinas Casnewydd, y Cynghorydd Deb Davies: "Mae llawer o waith caled ac ymrwymiad wedi mynd tuag at y diwrnod hwn a hoffwn ddweud da iawn i bawb sy'n cael eu canlyniadau heddiw. 

"Llongyfarchiadau mawr i'r rheiny sydd wedi ennill eu cymwysterau, boed yn academaidd neu'n dechnegol, ac rwy'n siŵr y byddwch yn mwynhau dathliadau haeddiannol gyda theulu a ffrindiau. 

"Fe fydd rhai nad ydynt o bosibl wedi cael y canlyniadau roedden nhw'n gobeithio eu cael. Peidiwch â phoeni - mae cyfleoedd ar gael i chi a bydd staff ysgol a choleg yn gallu rhoi gwybod i chi am y camau nesaf posibl. 

"Diolch i'r holl staff addysgol, llywodraethwyr, rhieni a gofalwyr am y gefnogaeth rydych wedi ei rhoi i ddisgyblion a myfyrwyr. 

"A phob lwc i'r holl bobl ifanc beth bynnag ddewisan nhw ei wneud nesaf - mwy o addysg, hyfforddiant neu ymuno â'r byd gwaith - ac ar gyfer y dyfodol."

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.