Newyddion

Prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd o fis Medi

Wedi ei bostio ar Wednesday 3rd August 2022
Free school meals - infants  - SMALL

Bachgen bach yn dal hambwrdd gyda bwyd arno. Plant eraill i'w gweld yn y cefndir yn bwyta wrth fwrdd mewn lleoliad ysgol.

Bydd pob plentyn yn y dderbynfa, blwyddyn 1 a blwyddyn 2 yn cael cynnig prydau ysgol am ddim o fis Medi ymlaen.

Diolch i arian gan Lywodraeth Cymru, mae cynghorau ledled Cymru yn ymestyn argaeledd prydau ysgol am ddim, gan ddechrau gyda'u dysgwyr ieuengaf.  Y nod yw y bydd pob disgybl ysgol gynradd yn gallu cael pryd ysgol am ddim erbyn 2024.

O fis Medi 2022 ymlaen, bydd Casnewydd yn cynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl yn Nosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 ysgolion lleol a gynhelir gan yr awdurdod.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Mudd, Arweinydd Cyngor Dinas Casnewydd:  "Mae hwn yn ymrwymiad gwych a fydd o fudd i gymaint o bobl ifanc yng Nghymru.  Rydym yn falch iawn o fod yn cyflwyno hyn yn gynnar, gan ragori ar y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.  Fe wnaethon ni'r addewid hwnnw i bobl Casnewydd er mwyn i ni allu helpu cymaint o blant cyn gynted â phosib, ac rydyn ni'n cadw at yr addewid.

"Does dim dwywaith y bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar deuluoedd a'n hamgylchedd addysg a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymestyn hyn i'n dosbarthiadau iau cyn gynted ag y gallwn."

Ychwanegodd y Cynghorydd Deb Davies – aelod cabinet dros addysg a'r blynyddoedd cynnar:  "Mae cymaint o dystiolaeth sy'n dangos bod pobl ifanc yn dysgu'n well pan maen nhw'n cael eu bwydo ac yn llawn.  Rydym wedi bod yn gwthio'r neges hon am flynyddoedd ac mae clybiau brecwast wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, ond mae hyn yn gam pellach.

"Mae yna heriau sy'n wynebu llawer o deuluoedd ar hyn o bryd, felly bydd hyn yn cael gwared ar rai o'r pryderon hynny ac yn sicrhau bod ein dysgwyr ieuengaf yn fodlon ac yn barod i fwynhau ac ennyn diddordeb yn eu haddysg."

Sut bydd fy mhlentyn yn derbyn y prydau hyn?

Bydd disgyblion yn gallu cael prydau bwyd yn uniongyrchol drwy eu hysgol ar ddechrau'r tymor.

Does dim rhaid gwneud cais i gael pryd ysgol am ddim.

Pa gymorth arall sydd ar gael?

Fodd bynnag, gall teuluoedd sydd wedi bod yn gymwys yn draddodiadol i gael prydau ysgol am ddim gael cymorth ychwanegol o hyd ond rhaid iddynt wneud cais i'r Cyngor. 

Gall cymorth o'r fath gynnwys grantiau gwisg ysgol, gostyngiadau ar dripiau ac arian ysgol ychwanegol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais ewch i www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Schools/School-meals/School-meals.aspx

Ychwanegodd y Cynghorydd Davies:  "Mae'n bwysig iawn, os ydych chi'n derbyn budd-daliadau penodol, eich bod chi'n dal i gysylltu â'r cyngor gan fod llawer mwy o gymorth ar gael i chi."

Mae'r manylion llawn ar gael yn www.newport.gov.uk/cy/Schools-Education/Schools/School-meals/School-meals.aspx neu os na allwch wneud cais ar-lein, anfonwch e-bost [email protected] neu ffoniwch 01633 656656.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.