Newyddion

Torri'r tyweirch cyntaf wrth i brosiect trawsnewid y Bont Gludo ddechrau

Wedi ei bostio ar Tuesday 2nd August 2022

Mae prosiect gwerth £16m i drawsnewid Pont Gludo Casnewydd yn atyniad o bwys i dwristiaid wedi dechrau yn gynharach heddiw.

Y Cynghorydd Jane Mudd, arweinydd y cyngor, a arweiniodd y dathliadau mewn seremoni torri’r dywarchen a gynhaliwyd ar safle'r bont y bore yma i nodi dechrau'r gwaith o godi canolfan ymwelwyr newydd.

Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys gwneud gwaith adfer helaeth ar y bont, a fydd yn sicrhau y caiff ei gwarchod ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Bydd y ganolfan newydd, a fydd wedi ei chysylltu â’r bont gan lwybr cerdded, yn dod â hanes y bont yn fyw drwy arddangos straeon personol y rhai a gynlluniodd, a adeiladodd ac a ddefnyddiai’r bont.

Un garreg filltir bwysig yn hanes y bont oedd y seremoni torri’r dywarchen wreiddiol a gynhaliwyd gan adeiladwyr y bont ym 1902, y rhoddwyd sylw iddi yn y seremoni fore heddiw.

Mae prosiect trawsnewid y Bont Gludo yn cael ei arwain gan Gyngor Dinas Casnewydd. Mae arian ar gyfer y prosiect wedi cael ei roi gan y cyngor, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru, a Sefydliad Wolfson.

Mae Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd hefyd yn codi arian ar gyfer y prosiect, a chyflwynwyd rhodd o £20,000 ganddynt ar gyfer y prosiect i'r Cynghorydd Mudd yn y seremoni fore heddiw.

Gan gyfeirio at y seremoni, dywedodd y Cynghorydd Mudd: "Roeddwn i wrth fy modd yn croesawu cydweithwyr ac ymwelwyr i ddathlu'r prosiect hwn a’n Pont Gludo wych y bore 'ma.

"Mae'r bont yn borth ffisegol i orffennol diwydiannol Casnewydd, sy'n procio’r cof ac yn cyfleu ymdeimlad o hiraeth am bobl leol. Eicon ein dinas ni yw hi, conglfaen ein treftadaeth, ac rydym mor falch o gael tirnod mor brin ar garreg ein drws.

"Fe fydd trawsnewid y safle'n atyniad twristaidd o bwys yn dod â manteision diwylliannol ac economaidd i'r ddinas.  Bydd yn ein galluogi i arddangos y bont i gynulleidfa lawer mwy, a sicrhau y bydd cenedlaethau'r dyfodol yn gallu mwynhau'r strwythur unigryw hwn yn yr un modd ag y gwnaeth cenedlaethau blaenorol."

Dywedodd Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru "Rydym yn falch bod hwn yn un o'n buddsoddiadau mwyaf erioed yng Nghymru.   

"Bydd Trawsnewid Pont Gludo Casnewydd yn helpu i gynnal swyddi, cefnogi twf economaidd, ysgogi twristiaeth ac ysgogi’r ymdeimlad cryf hwnnw o falchder sydd gan Gasnewydd yn ei threftadaeth unigryw.

"Nid yn unig mae'n cadw pont o'n gorffennol ond mae'n creu pont i gymunedau heddiw ac yn darparu pont i genedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd Llywodraeth Cymru Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip, Dawn Bowden:

 

"Mae'r bont gludo yn un o eiconau Casnewydd ac yn rhan sylweddol o dreftadaeth ddiwydiannol Cymru.

 

"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu'r dreftadaeth hon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rwyf wrth fy modd bod y gwaith hwnnw bellach wedi dechrau, diolch i’n cefnogaeth ni, ac y bydd y safle eiconig hwn yn cael ei adnewyddu fel un o safleoedd treftadaeth pwysig Cymru am flynyddoedd i ddod."

Bydd trigolion yn gallu cael y wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd y prosiect drwy gyfres o fideos sy’n cynnig cip y tu ôl i'r llen, a bydd tîm y prosiect hefyd yn llunio rhaglen allgymorth, 'Tu Hwnt i'r Bont', a fydd yn ymgysylltu â chymunedau a sefydliadau lleol.

Bydd diweddariadau pellach ar y ddwy fenter yn cael eu rhannu drwy sianeli cyfryngau cymdeithasol y Bont Gludo, a sianeli cyfathrebu'r cyngor, maes o law.

More Information

Nid oes unrhyw ganlyniadau sy'n cyfateb i'ch meini prawf.