Cyngor yn cymryd rhan yn Haf o Hwyl
Wedi ei bostio ar Tuesday 2nd August 2022
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn cymryd rhan yn yr Haf o Hwyl sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cynllun ar y gweill ar hyn o bryd ac yn para tan 30 Medi, gan gefnogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol a chwarae.
Mae gweithgareddau am ddim a chynhwysol i blant a phobl ifanc 0-25 oed, o bob cefndir a phob rhan o Gasnewydd. Maent yn cael eu cynnal gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Tutortoo, Operasonic a Duffryn Community Link.
Mae'r Haf o Hwyl bellach yn ei ail flwyddyn, ac fe'i lansiwyd fel rhan o waith i helpu pobl ifanc yng Nghymru i wella o effaith gymdeithasol, emosiynol, a chorfforol y pandemig, gyda lles plant a phobl ifanc yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth.
Yr haf diwethaf, cymerodd dros 67,500 o blant ran yng ngweithgareddau'r Haf o Hwyl ar draws Cymru yn cynnwys cerddoriaeth, theatr, gweithgareddau chwaraeon ar y môr, dringo a gwifren wib.
Yr haf yma mae yna amrywiaeth o weithgareddau unwaith eto ar gael ar draws sawl lleoliad yn y ddinas. Mae hyn yn cynnwys pethau fel bîtbocsio a sesiynau ysgrifennu caneuon, cerdded ceunentydd, celf a chrefft a sglefrfyrddio.
Am fwy o wybodaeth - gan gynnwys manylion am sut i archebu, lleoliadau ac ystodau oedran ar gyfer sesiynau – gweler y ddolen isod.
Haf o Hwyl - rhestr o weithgareddau (Excel)